Siarter Newydd i Gymru ar Greu Lleoedd
Ar fedi 24ain 2020, lansiodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y Siarter newydd i Gymru ar Greu Lleoedd yng Nghynadledd Fyw Cynllunwyr Cymru.
Datblygwyd y Siarter mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru, sef casgliad o randdalwyr yn cynrychioli ystod eang o ddiddordebau o fewn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol.
Bwriad y Siarter yw cryfhau’r ffocws ar Greu Lloeoedd mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru. Mae’r Siarter yn amlinellu chwech egwyddor creu lleoedd sy’n delio ag ystod o ystyriaethau sy’n cyfrannu at sefydlu a chynnal lleoedd da. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pobl a’r Gymuned
- Symud
- Tir y Cyhoedd
- Lleoliad
- Cymysgedd o ddefnyddiau
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn falch i gadarnhau ei fod yn un o lofnodwyr y Siarter ac yn ymrwymo’r sefydliad i’r egwyddorion ac i gefnogi Creu Lleoedd ar draws Cymru.
I ddarganfod mwy dilynwch y dolenni isod: