Ein Gwasanaeth Cyngor
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnig gwasanaeth Llinell Gymorth rhad ac am ddim er mwyn cynorthwyo aelodau cymwys o’r cyhoedd a grwpiau cymunedol sydd angen help arnynt gyda mater cynllunio. I gael mwy o wybodaeth am y meini prawf a ddefnyddiwn pan yn penderfynu ar gymhwysedd, cysylltwch â ni, neu cliciwch yma>>
Gallwch ddod o hyd i bob math o wybodaeth a chyngor ar y wefan hon trwy glicio ar gyngor cynllunio.
Mae’r gwasanaeth Llinell Gymorth yn darparu tair lefel wahanol o gymorth – gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Mae lefel y gwasanaeth yn ddibynnol ar gymhwysedd yr unigolyn, grŵp neu fusnes sy’n gofyn am gymorth.
Gwybodaeth
- Esboniad o rannau perthnasol y broses gynllunio (megis ceisiadau cynllunio, datblygu neu weithdrefnau apeliadau).
- Cyfeirio at ddogfennau canllaw sy’n esbonio gweithdrefnau yn fwy manwl.
- Esboniad o’ch hawliau o fewn y system gynllunio.
- Cyfeirio at sefydliadau a all efallai ddarparu help ychwanegol.
- Cyfeirio at restr o ymgynghorwyr cynllunio ardystiedig gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.
Cyngor
- Gwybodaeth fanwl ar agweddau penodol o’r system gynllunio.
- Cymorth gyda datblygu strategaethau er mwyn delio â materion cynllunio penodol.
- Cymorth gyda datblygu dadleuon er mwyn cefnogi eich achos.
- Ymchwil sylfaenol a chyfeirio at bolisïau perthnasol neu achosion, yn cynnwys cyngor ar sut y gellir eu defnyddio’n fwyaf effeithiol.
Cefnogaeth
- Gwybodaeth a chyngor cyfredol.
- Cynrychiolaeth ar eich rhan.
- Ymweliadau safle fel bo’n briodol.
- Cymorth gyda pharatoi llythyrau a ffurflenni fel bo’n briodol.
- Cymorth gyda pharatoi ymatebion i ymgynghoriadau, ceisiadau cynllunio neu astudiaethau ymarferoldeb.
- Cymorth gyda chyfeirio at gyrff eraill a all ddarparu cymorth mwy arbenigol.
- Gallwch gael gafael ar ein gwasanaeth Llinell Gymorth ar y ffôn, trwy bost neu’r post. Rhoddir y manylion cyswllt isod.
I gael mynediad at ein gwasanaeth cynghori, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod yn y lle cyntaf.
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen gysylltu, defnyddiwch e-bost.
Dros y ffôn:
02920 625000
Oriau agor y llinell gymorth yw:
Dydd Llun 10am i 1pm
Dydd Mercher 9.30am i 12.30pm
*Y tu allan i’r oriau hyn, defnyddiwch e-bost/ffurflen gyswllt.
Trwy’r post:
Byddwch cystal ag anfon eich ymholiad i’r cyfeiriad isod gan wneud yn siwr eich bod yn cynnwys eich enw, gwybodaeth cyswllt ac esboniad byr o’r mater cynllunio yr hoffech gael ein cymorth ag ef, ac esboniad byr o pam rydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn.
Cymorth Cynllunio Cymru
12 Ffordd y Gadeirlan,
Caerdydd
CF11 9LJ
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i ddweud pryd byddwn ni’n gallu delio â’ch cais.