Ein gwasanaethau
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen gofrestredig sy’n annog a chefnogi ymrwymiad y gymuned mewn cynllunio yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym 1978 ac mae gennym bron i 40 mlynedd o brofiad yn helpu unigolion a grwpiau cymunedol i ddeall ac ymgysylltu â’r system gynllunio.
Mae ein gwasanaethau, sydd â chyllid craidd, yn cynnwys dosbarthu hyfforddiant ar gynllunio i ystod o gynulleidfaoedd, datblygu canllawiau sy’n hawdd eu darllen a llinell gymorth sy’n rhoi cyngor cynllunio am ddim.
Rydym hefyd yn ymgymryd â phrosiectau a chomisiynau ar ran Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Cynllunio Lleol a Chynghorau Cymuned a Thref. Cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau:
Hyfforddiant ar bob agwedd o’r system gynllunio
Cefnogaeth ymgysylltiad cymunedol
Cyngor a chefnogaeth ar Gynlluniau Cynefin
Datblygu canllawiau hygyrch / hawdd eu darllen