Ymunwch â’n bwrdd rheoli

Er mwyn sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol, mae gan fwrdd rheoli Cymorth Cynllunio Cymru hyd at bymtheg o Gyfarwyddwyr Ymddiriedol sy’n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae Cyfarwyddwyr Ymddiriedol yn atebol dan y gyfraith am weithgareddau’r sefydliad. Cynhwysir dyletswyddau’r Cyfarwyddwyr Ymddiredol yn nisgrifad tasgau Cyfarwyddwyr Ymddiriedol Cymorth Cynllunio Cymru isod.

Yr ymrwymiad amser a ddisgwylir oddi wrth Gyfarwyddwyr yw tua pedair awr ar hugain dros gyfnod o dri mis, neu tua saith awr y mis. Ni thelir yr Ymddiriedolwyr, er ad-delir unrhyw dreuliau teithio rhesymol. Cynhelir dau o’r pedwar cyfarfod blynyddol y Bwrdd wyneb yn wyneb (mewn lleoliadau yn Ne a Gogledd Cymru am yn ail) a chynhelir dau drwy gynhadledd fideo yn Ne a Gogledd Cymru.

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cynnwys unigolion gydag amrywiaeth o brofiad (am fanylion gweler y rhestr o aelodau presennol y Bwrdd).

Diddordebau a phrofiad

  • Marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • Rheolaeth ariannol
  • Codi arian
  • Gwybodaeth am gyfraith elusen a chwmni
  • Cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth

Sgiliau gofynnol

  • Meddylfryd beirniadol
  • Y gallu i gymhathu gwybodaeth gymhleth
  • Hyder wrth gymryd penderfyniadau anodd
  • Gallu i gyfathrebu â chynulleidfaoedd gwahanol

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn hybu cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o wahanol gefndiroedd. Cynigir hyfforddiant cynefino i bob cyfarwyddwr ymddiriedol newydd.

Pecyn cais

I wneud cais i fod yn gyfarwyddwr ymddiredol byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais fer isod.

Rôl y Bwrdd Rheoli a Chyfarwyddwyr unigol

Disgrifiad tasgau y Cyfarwyddwyr Ymddiriedol

Ffurflen gais Cyfarwyddwr Cymorth Cynllunio Cymru

Adroddiad Blynyddol Cymorth Cynllunio Cymru Ebrill 2017 – Mawrth 2018

Erthyglau Cymdeithasu Cymorth Cynllunio Cymru

Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Share via
Share via
Send this to a friend