Rheolir Cymorth Cynllunio Cymru gan Fwrdd o bymtheg Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn ac mae’n atebol dan gyfraith elusennau a chwmnïau i sicrhau ein bod yn cadw at ein hamcanion elusennol a bod ein harian yn cael ei reoli’n effeithiol.
Mae aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli amrediad eang o ddiddordebau cynllunio a diddordebau cysylltiol a dônt o nifer o wahanol sectorau, yn cynnwys llywodraeth leol, ymgynghoriaeth, academia a sefydliadau cynllunio ac amgylcheddol cysylltiol. Mae’r Cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn pwyllgorau a gweithgorau.
Mae Cyfarwyddwyr yn gwasanaethu ar y Bwrdd rheoli fel unigolion yn eu rhinwedd eu hun; nid ydynt yn cynrychioli buddion y sefydliadau maent yn gweithio iddynt.
Mae gan Gymorth Cynllunio Cymru ddiddordeb mewn recriwtio Cyfarwyddwyr o wahanol gefndiroedd a chanddynt amrediad o sgiliau gwahanol i’w cynnig. Nid oes rhaid i Gyfarwyddwyr fod yn gynllunwyr proffesiynol na’n ymwneud â’r sector gynllunio. Os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho pecyn gwybodaeth yma neu neu gysylltu â ni am sgwrs.
Cyfarwyddwr-Ymddiriedolwr presennol
Derek Hobbs – Cyd-Gadeirydd
Mae Dere yn ymgynghorydd llawrydd gyda Digital Transformation Relationships Ltd., yn gweithio i gleientiaid megis yr Automobile Association, Business in Focus ac Oracle ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau dwy flynedd fel Cyfarwyddwr Dros Dro Trosglwyddiad Digidol gyda Gyrfaoedd Cymru.
Ymunodd â DWP fel Pennaeth Gwasanaethau Digidol chwe blynedd yn ôl a dod yn Bennaeth Digital Efficiencies and Channels a chyflwyno, ymysg pethau eraill, robotiaid a sianeli sy’n hygyrch i bobl anabl.
Cyn hynny roedd yn Bennaeth Marchnata Strategol yn y Rheolwr Pensiynau (yn gyfrifol am gyflwyno Cofrestru Awtomatig i bob cyflogwr yn y DU), Pennaeth Mewnwelediad a Marchnata yn y DVLA (yn gyfrifol am gyflwyno Trethu Ceir Ar-lein, Trwyddedau Gyrru a Marchnata Cofrestriad Personol), yn Gyfarwyddwr Masnachfraint Moduro yn DirectGov (yn gyfrifol am y nifer fwyaf o fasnachfraint ar safle DirectGov) a Phrif Weithredwr Valleys Arts Marketing (yn gyfrifol am gefnogaeth farchnata i leoliadau mewn 10 Awdurdod Lleol). Cyn hynny roedd yn rhedeg ei gwmni Dodrefn Archeb-Trwy’r-Post ei hun am 20 mlynedd.
Mae’n Gymrawd y CIM a’r IDM.
Ian Stevens
Ymunodd Bwrdd Rheoli – 2014
Mae Ian yn Gynllunydd Tref siartredig. Mae ganddo brofiad yn y sector gyhoeddus a phreifat ar ôl gweithio fel ymgynghorwr ac mewn awdurdodau lleol ar draws Cymru a Lloegr. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau cynllunio yn cynnwys gwerthuso cynllunio, hyrwyddo tir, cynlluniau datblygu lleol a chynllunio cymdogaethol ynghyd ag ymddangos mewn archwiliadau cynlluniau lleol. Mae ganddo brofiad o ddarparu cyngor i amrywiaeth o randdalwyr ac ymgymryd â digwyddiadau cymunedol. Hefyd mae Ian wedi paratoi a chyflwyno ceisiadau cynllunio yn cynnwys datblygiadau preswyl, newid defnydd, tystysgrifau a chynlluniau datblygiad cyfreithiol trwy hawliau datblygu a ganiateir. Yn Gymro Cymraeg, mae Ian yn byw yng Ngogledd Cymru. Mae wedi gwirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru am dros saith blynedd, ac wedi delio â galwadau gan y cyhoedd i’r llinell gymorth ar ystod o faterion cynllunio. Yn fwy diweddar mae wedi gweithredu fel aelod o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr, gan ddarparu cyngor strategol i’r Prif Weithredwr a sicrhau llywodraethiant effeithiol.
Martin Buckle
Ymgynghorydd Annibynnol ar Gynllunio Trafnidiaeth ac Adnewyddu
Ymunodd â’r Bwrdd Rheoli – 2016
Penodwyd Martin yn 2018 gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru, swydd y mae’n parhau i’w dal. Cyn hynny, roedd wedi treulio degawd mewn penodiad arall gan Lywodraeth Cymru fel Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APC). Ar ôl cwblhau’r tymor hwnnw, ymunodd Martin â Chymdeithas Parc Bannau Brycheiniog, ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Gymdeithas ers 2018.
Yn gynllunydd proffesiynol, mae Martin hefyd yn ymwneud yn weithredol â llywodraethu RTPI Cymru fel aelod o’i Fforwm Polisi ac Ymchwil, ar ôl gwasanaethu ar Fwrdd Rheoli RTPI Cymru yn flaenorol. Treuliwyd llawer o yrfa Martin yn gweithio mewn llywodraeth leol yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, yn bennaf ym meysydd cynllunio, trafnidiaeth, adfywio a rheoli perygl llifogydd. Symudodd i’r sector ymgynghorol, ar sail llawrydd, yn 2006.
Yn gynharach yn ei yrfa, yn ôl yn yr 1980au a’r 1990au, roedd Martin hefyd yn wirfoddolwr Cymorth Cynllunio Cymru.
Ian Horsburgh
Cynllunydd Siartredig (wedi ymddeol)
Ymunodd Bwrdd Rheoli – 1995
Roedd Ian Horsburgh yn Gynllunydd gyda Chyngor Caerdydd gydag amryw swyddogaethau rhwng 1972 a 2009. Mae bellach ‘wedi ymddeol’ ond mae’n parhau i ymwneud â grwpiau cymunedol ac yn helpu sipsiwn a theithwyr. Mae wedi bod yn ymwneud â Chymorth Cynllunio ers 1976 ac roedd ef yn allweddol yn gwneud Cymorth Cynllunio De Cymru, rhagflaenydd Cymorth Cynllunio Cymru, yn elusen annibynnol. Yn flaenorol mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y sefydliad ac mae’n aelod o’r Bwrdd ac yn bennaeth ar y Grŵp Marchnata.
Mae Ian wedi gwneud llawer gyda grwpiau cymunedol yn Ne Cymru ac mae wedi sylfaenu dwy elusen arall. Dros fisoedd y gaeaf, mae’n mudo i’r de i’r Alpau er mwyn mynd i sgïo ‘off-piste’.
Graham Walters
Ymunodd â’r Bwrdd Rheoli – 2016
Mae Graham newydd ymddeol fel bargyfreithiwr. Roedd yn gweithio yng Nghaerdydd am dros 30 blynedd ac roedd yn un o sylfaenwyr Civitas Law, bargyfreithwyr cyfraith sifil a chyhoeddus ac mae’n parhau i fod yno fel ‘tenant drws’. Roedd yn arbenigo mewn cyfraith weinyddol a chyhoeddus yn gyffredinol gyda phwyslais penodol ar gynllunio a gwaith ymchwiliadau cyhoeddus ar gyfer datblygwyr a chyrff cyhoeddus.
Mae’n cynnal ei ddiddordeb yn y broses cynllunio a datblygu yng Nghymru ac yn ceisio lledaenu dealltwriaeth o hyn.
Kate Miles
Kate yw Rheolwr Elusen Sefydliad DPJ, elusen sy’n cefnogi iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol, trwy ddarparu llinell gymorth a mynediad at gwnsela am ddim yn ogystal â hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Cyn ymgymryd â’r rôl hon, bu’n gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr yn ardal Castell-nedd Port Talbot gan eu cefnogi a’u cynghori i sicrhau arferion llywodraethu cryf.
Mae Kate yn gyn-gyfreithiwr ac yn arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Adno ddau Dynol yn ystod ei gyrfa gyfreithiol lle bu’n cynghori amrywiaeth o gyrff a busnesau yn y sector cyhoeddus.
Magwyd Kate ar fferm bîff a defaid yn Ne Cymru. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac yn wirfoddolwr gyda CFfI Gŵyr. Yn ei hamser segur, mae Kate yn mwynhau chwarae pêl-rwyd, cerdded gyda’i chi a fforio.
Dr. Francesca Sartorio – Cyd-Gadeirydd
Mae Francesca wedi bod yn gweithio fel Darlithydd mewn Cynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2004. Cyn symud i Gaerdydd roedd yn gweithio mewn ymarfer ac mewn academia yn Yr Alban, Yr Almaen a’r Eidal. Mae ei agenda ymchwil yn mapio’r ardaloedd y bu’n gweithio ynddynt tra’n ymarferydd (cynllunio) ac yn canolbwyntio ar arferion cynllunio strategol, ymgysylltiad dinasyddion yn y prosesau cynllunio a diwylliannau dylunio trefol – gyda delio ambell waith â materion pedagogaidd (ar ôl dod yn ymarferydd addysgol).
Ers dod i’r DU, mae Francesca wedi dylunio, arwain a thraddodi 15 modiwl a bod yn rhan o dimau addysgu amlddisgyblaethol yn datblygu rhaglenni newydd UG a PGT. Mae ei haddysgu wedi delio â systemau cynllunio, astudiaethau cynllunio cymharol, dylunio trefol, cyfranogi ac ymgysylltu â chynllunio, dulliau ymchwil ac mae ganddi brofiad mewn dylunio amgylchedd addysgu anghonfensiynol megis charrettes, ystafelloedd dosbarth wedi eu gwyrdroi, a sefyllfaoedd dysgu-trwy-wneud. Mae hi hefyd wedi bod yn ffodus i oruchwylio saith myfyriwr PhD, gyda chyllid mewnol ac allanol. Mae hi’n Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.
Bu’n Gyfarwyddwr ac Ymddiriedolwr i Gymorth Cynllunio Cymru rhwng 2009 a 2017 ac eto ers 2019. Mae wedi bod yn rhan o Grŵp Cynghori Polisi Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru rhwng 2014 a 2016. Gweithredodd fel cynrychiolydd y DU ar Gymdeithas Cynllunio Ysgolion Cynllunio Ewrop (AESOP) rhwng 2014 a 2020, trwy eistedd ar Gyngor y Cynrychiolwyr.
Mae’n byw gyda dau ‘fachgen’: bachgen 12-mlwydd oed a chi 3-blwydd oed a’r ddau’n fywiog ac yn llawn chwilfrydedd. Pe bai ganddi amser byddai’n hoffi gwneud amrywiaeth o weithgareddau crefft a choginio ond nid oes ganddi amser sbâr felly ei huchelgais ar y funud yw creu amser – gyda chanlyniadau gwael!
Shane Wetton
Mae Shane yn Swyddog Ymgysylltiad Strategol a Chynlluniau Cynefin yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac wedi bod yn ymwneud â Chynlluniau Cynefin ers eu cychwyn. Mae’n gweithio gyda’r Tîm Cynllunio Strategol ac mae wedi cynorthwyo cymunedau i ddylanwadu ar y Broses Gynllunio ac yn eu hannog i gymryd rôl ragweithiol er mwyn darparu gwybodaeth a gallu lleol. Mae wedi bod yn Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol am 17 blynedd ac wedi gweithio ar sawl menter yn lleol, yn Ewrop a chyda Llywodraeth Cymru; yn ei swydd fel Prif Swyddog Datblygu Cymuned fe’i gwelwyd yn darparu cefnogaeth datblygiad cymunedol traddodiadol i grwpiau ac unigolion a’u hannog i fod yn fwy rhagweithiol yn eu cymunedau trwy ddarparu mentora ar adeiladu capasiti a chynorthwyo gyda thechnegau ymgysylltu, codi arian a cheisiadau, yn ogystal â datblygu a rheoli prosiectau.
Hefyd bu Shane yn gweithio ar y rhaglen Adnewyddu Bywyd y Bae ym Mae Colwyn gan annog cymunedau lleol i ymgysylltu â’r mentrau adfywio oedd yn digwydd yn eu tref ac i ddylanwadu ar y datblygiadau.
Mae Shane wedi byw ei holl fywyd yng Ngogledd Cymru ac mae’n aelod o sawl panel Cyllid Cymunedol ac yn teimlo’n angerddol dros hanes a dyfodol yr ardal. Ymhell o’i waith mae gan Shane ychydig o ddiddordebau a gweithgareddau eraill, mae’n Gynghorydd Cymuned yn ei bentref lleol ac yn hyfforddwr tîm pêl-droed ieuenctid lleol. Mae’n hoff o gasglu hen gerddoriaeth a recordiau vinyl ac yn mwynhau mynd i gyngherddau fel y gall.
Jonathan Parsons
Ar hyn o bryd mae Jonathan yn swyddog arweiniol ar gyfer Cynllunio a Chludiant Strategol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen y Bont ar Ogwr. Ymunodd â’r tîm cynllunio yn syth o’r ysgol yn 1985 ac ers hynny mae wedi gweithio i sawl awdurdod Cynllunio yn Ne Cymru mewn sawl swydd wrth astudio’n rhan-amser cyn dod yn gynllunydd tref siartredig yn 1996.
Yn ei yrfa mae wedi delio â holl agweddau cynllunio yn cynnwys rheoli datblygu, polisi, apeliadau a gorfodaeth. Mae hyn wedi cynnwys gweithio ar brosiectau mawr seilwaith, adnewyddu a phreswyl. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn ymwneud â chynllunio rhanbarthol a mentrau cludiant. Cychwynnodd ymrwymiad Jonathan â Chymorth Cynllunio Cymru fel gwirfoddolwr yn 1998 gan gymryd amrywiaeth o waith achos a digwyddiadau ymgysylltiad cymunedol.
Mae Jonathan yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo gwaith y proffesiwn cynllunio fel yr ysgogwr allweddol sy’n darparu lleoedd cynaliadwy, iach ac o ansawdd dda.
Robert Chichester
Mae Robert yn Gynllunydd Tref Siartredig gyda dros 15 blynedd o brofiad yn y Sector Gyhoeddus a Phreifat. Mae’n Gyfarwyddwr a Pherchennog C2J Architects & Town Planners ac yn fwyaf cyfrifol am y sector gynllunio yn y swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain. Mae’n arbenigo mewn cynllunio gofodol, rheoli datblygu a datblygiadau preswyl.
Mae Robert wedi bod yn aelod o Bwyllgor Gweithredol RTPI Cymru ers 2015 ac yn bresennol ef yw’r Is-gadeirydd Iau. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn ei amser hamdden mae’n chwarae golff, yn hoff iawn o rygbi ac yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu ifanc.
Marion Davies
Cynlluniwr Tref Siartredig (wedi ymddeol).
Ymunodd â’r Bwrdd Rheoli yn 2024
Bu Marion Davies yn gweithio fel Cynllunydd Tref mewn llywodraeth leol yn Ne Cymru rhwng 1978 a 1990 – Cyngor Bwrdeistref Taf Elái, Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Llanelli a Chyngor Bwrdeistref Ogwr. Ymunodd Marion wedyn â Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd i weithio ar ddatblygiad yr Harbwr Mewnol. Ymunodd Marion â Bwrdd Croeso Cymru wedyn i weithio ar ddatblygu twristiaeth yn Ne Cymru a gorffennodd ei gyrfa yn gweithio i Lywodraeth Cymru ar bolisi economaidd a strategol a Chynllun Gofodol Cymru.
Bu Marion yn ymwneud â datblygu Cymorth Cynllunio Cymru yn y 1980au. Ar hyn o bryd Marion yw Is-Gadeirydd Cyngor Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn materion cynllunio ac anabledd.
Mae Marion hefyd yn ymddiriedolwr i Gymdeithas Cyfeillion Gerddi Dyffryn ac yn aelod o bwyllgor Cangen Canol a De Morgannwg o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru.
Roderic Jones
Mae Rod yn gyfreithiwr sydd wedi bod yn gymwys ers dros 40 mlynedd.
Yn ystod ei yrfa mae wedi gweithio i wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Dechreuodd arbenigo mewn materion cynllunio yn y 1980au hwyr ac ers hynny ef yw prif gynghorydd cynllunio cyfreithiol yr awdurdodau lleol hynny am y rhan fwyaf o’i yrfa waith. Mae wedi cynghori ar bob agwedd ar y gyfraith yn ymwneud â chynllunio.
Ymddeolodd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2023.