Wrth ymateb i ymgynghoriadau ar bolisi cynllunio cenedlaethol, amcan Cymorth Cynllunio Cymru yw nodi rhwystrau polisïau posibl i ymrwymiad cyhoeddus ystyrlon. Ein hegwyddor ni yw bod gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r broses gynllunio ac annog ymgysylltiad y gymuned o’r cychwyn cyntaf mewn unrhyw weithgaredd cynllunio, yn anochel yn arwain at gynllunio gwell. Mae ymrwymiad cyhoeddus sydd wedi ei reoli’n iawn yn gwella hyder yn y system gynllunio, yn lleihau gwrthdaro ac yn gwella canlyniadau.
Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho ymatebion Cymorth Cynllunio Cymru i ymgynghoriadau cyhoeddus.