Gwasanaethau Ymgysylltiad Cymunedol

Mae Cymorth Cynllunio Cymru’n credu’n gryf mewn ymgysylltiad cymunedol ystyrlon mewn cynllunio. Trwy ein gwaith, rydym yn ceisio cynyddu gwybodaeth a gallu cymunedau i ymgysylltu, nid yn unig mewn gweithgaredd gyfredol – rydym yn ceisio galluogi pobl i gymryd rhan yn effeithiol mewn gweithgareddau cynllunio yn barhaol.

Rydym ar gael i gefnogi Awdurdodau Cynllunio Lleol ar ymgysylltiad cymunedol yn y broses Cynllun Datblygu Lleol.

Fel sefydliad trydydd parti, rydym wedi darganfod, dro ar ôl tro, bod cymunedau’n fodlon ymgysylltu â ni, hyd yn oed pan fo Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi dod ar draws rhwystrau i ymgysylltiad yn y gorffennol. Fel rhan o’n proses, rydym yn annog cydweithrediad gweithredol rhwng staff awdurdodau cynllunio lleol a grwpiau cymunedol, a thrwy hyn adeiladu gwell berthynas ar gyfer ymgysylltiad yn y dyfodol. Nid oes barn gennym ar unrhyw bolisi lleol na datblygiad penodol; rydym ond yn cefnogi unigolion a chymunedau i fynegi eu sylwadau eu hunain yn effeithiol.

Mae’n gwasanaethau ymgysylltiad cymunedol yn cynnwys:

  • Datblygu strategaeth ymgysylltiad cymunedol
  • Gweithdai hyfforddiant ar adeiladu gallu a chonsensws
  • Gweithdai ymgysylltu â grwpiau nas clywir ac ymgysylltu ag ieuenctid
  • Cefnogaeth Cynlluniau Cynefin, yn cynnwys hyfforddiant ar a datblygu Cynllun Cynefin
  • Dogfennau CDLl hawdd eu darllen
  • Cefnogaeth codi ymwybyddiaeth

I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau cefnogi ymgysylltiad, cysylltwch â ni..

Share via
Share via
Send this to a friend