Fel gwirfoddolwr gyda Chymorth Cynllunio Cymru gallwch ddewis i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau:
- Rydym yn darparu gwasanaeth Llinell Gymorth ar y ffôn neu ebost sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i alwyr cymwys ar draws y sbectrwm o faterion cynllunio. Gwneir llawer o’r gwaith hwn gan wirfoddolwyr cynllunio sy â chymwysterau llawn.
- Mae gwirfoddolwyr yn helpu cyflwyno hyfforddiant a chefnogaeth arall i grwpiau cymunedol. Ar gyfer hyn, rhaid inni gael cynllunwyr cymwysedig, profiadol a hefyd pobl gyda sgiliau hwyluso, hyfforddi a chyfryngu.
- Mae Cymorth Cynllunio Cymru’n cynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau canllaw ynghyd â deunyddiau dysgu sy’n esbonio’r system gynllunio leygwyr. Gallwch wirfoddoli i ysgrifennu cynnwys y cyhoeddiadau, neu os nad ydych yn gynllunydd gallwch helpu gyda chyfieithu, prawf ddarllen neu ddarluniau.
- Gallwch hefyd wirfoddoli fel Cyfarwyddwr ar Fwrdd Rheoli Cymorth Cynllunio Cymru. Ar gyfer hyn mae angen pobl gyda phrofiad o reoli sefydliadau, codi arian, datblygu cymunedol ac ati. Nid yw arbenigedd cynllunio yn hanfodol.
Gall gwirfoddolwyr ddewis faint o amser maent am roi ac ar ba bynciau yr hoffent weithio. Mae rhai’n dewis ehangu eu gorwelion yn fwriadol trwy weithio mewn meysydd na fyddent yn dod ar eu traws yn eu gwaith bob dydd.
Hefyd mae Cymorth Cynllunio Cymru’n cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr i gael hyfforddiant am ddim ac am bris isel fydd, ynghyd â gwaith achos, yn gallu cyfri tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus.
Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli gyda Chymorth Cynllunio Cymru, cysylltwch ni ar 02920 625 004 neu ar ebost.