Dyddiau cynnar

Dechreuwyd Cymorth Cynllunio am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig gan Sefydliad Cynllunio Tref a Gwlad ym 1973 i ddarparu cefnogaeth a chyngor cynllunio proffesiynol, annibynnol, am ddim i gymunedau ac unigolion oedd methu talu ffioedd ymgynghorwyr cynllunio.

Ym 1978 sefydlwyd Cymorth Cynllunio De Cymru fel elusen annibynnol yn darparu cefnogaeth a chyngor ar y system gynllunio yng Nghymru. Roedd hyn yn dibynnu’n llwyr ar ymroddiad a chefnogaeth nifer fach o wirfoddolwyr ymroddgar. Yn 2005 gyda grant craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sefydlwyd Cymorth Cynllunio Cymru i ddarparu gwasanaeth i Gymru gyfan.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru’n cynnal cysylltiadau agos gyda gwasanaethau Cymorth Cynllunio yn rhannau eraill y DU.

 

Darganfod fideo cymorth cynllunio De Cymru

Yn ddiweddar, darganfuwyd fideo a gynhyrchwyd gennym ymhell yn ôl ym 1983, yn ein harchifau. Cynhyrchwyd y fideo gan wirfoddolwyr ac mae’n cyflwyno gwasananeth cymorth cynllunio De Cymru (fel yr oedd ar y pryd) ac yn rhannu rhai o brofiadau ein cwsmeriaid.

Share via
Share via
Send this to a friend