Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ofodol newydd ar gyfer Cymru ar 24 Chwefror 2021.
Cyhoeddwyd y ddogfen yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyn hyn yr enw oedd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.
Beth yw Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Mae Cymru’r Dyfodol – Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn gynllun datblygu cenedlaethol ugain-mlynedd sy’n berthnasol i Gymru gyfan. Fe’i cynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n delio â’r cyfnod hyd at 2040.
Amcan y cynllun yw darparu strategaeth i ddelio â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol trwy’r system gynllunio. Mae’r cynllun yn delio â materion mawrion yn cynnwys yr economi, tai a’r amgylchedd. Mae’n dangos ble dylai datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol megis ynni, trafnidiaeth, dŵr a phrosiectau gwastraff gymryd lle. Mae’n dangos ble dylai twf ddigwydd, pa seilwaith a gwasanaethau fydd eu hangen a sut gall Cymru helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’n ceisio gwneud y defnydd gorau o adnoddau, creu cymunedau iach a hygyrch, a diogelu ein hamgylchedd. Mae’r cynllun yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sut bydd hyn yn effeithio ar gymunedau?
Yn ogystal â delio â’r materion cynllunio mawr sy’n effeithio ar Gymru, bydd y cynllun yn effeithio ar ffurf a chyfeiriad polisi cynllunio yn y dyfodol yng Nghymru, yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn nodi pedwar rhanbarth ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol – Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru. Disgwylir y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) yn cael eu paratoi ar gyfer y rhanbarthau hyn. Bydd y CDS yn dylanwadu ar gynnwys (a hyd) CDLl y dyfodol.
Ystyrir bod gan bob rhanbarth ei gyfleoedd a’i heriau unigryw ei hun ac felly bydd y dull uchod yn darparu ffordd briodol o ddelio â’r materion hyn.
Pa statws sydd y Cynllun Cenedlaethol?
Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yn disodli Cynllun Gofodol Cymru oedd yn flaenorol. Yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru mae i’r Cynllun Cenedlaethol statws cynllun datblygu ac felly mae’n ganddo fwy o arwyddocâd.
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ddarn mawr o’r jig-so cynllunio yng Nghymru. Dyma hierarchaeth y cynlluniau datblygu:
- Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
- Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS)
- Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl)
Mae’n rhaid i’r CDS a’r CDLl fod yn gyson â’r Cynllun Cenedlaethol. Hefyd bydd Y Cynllun Cenedlaethol yn berthnasol i brosiectau seilwaith mawr trwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC).
Felly, tra bo’r Cynllun Cenedlaethol yn gynllun i Gymru gyfan, bydd yn hysbysu penderfyniadau ar brosiectau seilwaith ag arwyddocâd cenedlaethol a bydd yn effeithio ar bolisi cynllunio’r dyfodol ar lefel leol.
Sut mae’n berthynol i gyfreithiau, polisïau a chynlluniau eraill?
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ochri â, ac yn mwyhau, ei gyfraniad i uchelgeisiau llesiant, amcanion a ffyrdd o weithio fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn gosod allan fframwaith defnydd tir er mwyn cefnogi cyflenwi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol. Yn ogystal, mae nifer o strategaethau a pholisïau eraill Llywodraeth Cymru wedi hysbysu a helpu llunio’r Cynllun Cenedlaethol, yn cynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, Strategaeth Trafnidiaeth, Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu ar yr Economi, Polisi ar Adnoddau Naturiol a chynllun Cymru Carbon Isel. Y bwriad yw y bydd perthynas ddwy ffordd, gydag unrhyw adolygiadau o’r dogfennau hyn yn cymryd y Cynllun Cenedlaethol i ystyriaeth.
Nid yw’r Cynllun Cenedlaethol yn cymryd lle Polisi Cynllunio Cymru (PCC); cyhoeddwyd argraffiad newydd, rhif 11, ar yr un diwrnod â’r Cynllun Cenedlaethol; bydd yn ategu’r PCC a’r Nodiadau Cyngor Technegol atodol.
Felly bydd y Cynllun Cenedlaethol yn effeithio ar ffurf a chyfeiriad polisi cynllunio yn y dyfodol yng Nghymru, yn cynnwys Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).
Sut mae’r Cynllun Cenedlaethol wedi ei strwythuro?
Rhennir Y Cynllun Cenedlaethol yn bump adran, gyda phob un yn adeiladu ar yr adran flaenorol:
- Cyflwyniad – yn esbonio diben y Cynllun Cenedlaethol a sut mae’n cydymffurfio â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru.
- Cymru: Trosolwg – yn nodi ac esbonio’r prif heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru dros yr ugain mlynedd nesaf. Rhestrir yr heriau a’r cyfleoedd hyn dan benawdau amrywiol e.e. Iechyd, Poblogaeth, yr Economi ac ati.
- Gosod a chyflawni ein huchelgeisiau – Mae Canlyniadau’r Cynllun Cenedlaethol yn uchelgeisiau trosfwaol yn seiliedig ar egwyddorion cynllunio cenedlaethol a chanlyniadau creu cynefinoedd cynaliadwy cenedlaethol a osodir yn Polisi Cynllunio Cymru. Mae’r cynllun yn nodi 11 canlyniad y mae’n ceisio eu cyflawni.
- Dewisiadau Strategol a Gofodol: Strategaeth ofodol Cymru’r Dyfodol – yn gosod allan fframwaith arweiniol ar gyfer y lleoedd hynny y bydd newid ar raddfa fawr a datblygiadau o bwys cenedlaethol wedi’u canolbwyntio arnynt dros yr 20 mlynedd nesaf. Bydd yn cefnogi Canlyniadau’r Cynllun Cenedlaethol.
- Y Rhanbarthau – yn gosod pwysigrwydd cynllunio rhanbarthol a chyflwyno Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS). Mae’n cadarnhau’r pedwar rhanbarth fel Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Orllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru.
Beth yw’r prif heriau a’r cyfleoedd a nodir yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?
Mae rhai heriau a chyfleoedd yn cynnwys:
- Ein Poblogaeth
- Ein Hiechyd
- Yr Iaith Gymraeg
Yn ogystal, mae’r materion eraill a nodir yn cynnwys:
- Newid Hinsawdd
- COVID 19
- Economi Carbon Isel
Ceir rhestr lawn ar dudalennau 20-51.
Pa ganlyniadau mae’r Cynllun Cenedlaethol yn dymuno eu cyflawni?
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ceisio gweld Cymru fel gwlad ble mae pobl yn byw a …
…gweithio mewn lleoedd cysylltiedig, cynhwysol ac iach…
…mewn lleoedd gwledig, bywiog gyda’r gallu i gael gafael ar dai, swyddi a gwasanaethau…
… mewn rhanbarthau unigryw sy’n delio ag anghydraddoldeb cymdeithasol-economaidd ac iechyd drwy…
…dwf gynaliadwy…
… mewn lleoedd ble mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu…
… a gweithio mewn trefi a dinasoedd sy’n ffocws ac yn sbring fwrdd i…
…Dwf gynaliadwy…
…mewn lleoedd ble hyrwyddir ffyniant, menter a diwylliant.
… mewn lleoedd ble mae teithio yn gynaliadwy.
… mewn lleoedd gyda seilwaith digidol o’r radd flaenaf.
… mewn lleoedd sy’n rheoli eu hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn lleihau llygredd.
… mewn lleoedd gydag ecosystemau bioamrywiol, gwydn a chysylltiedig.
… mewn lleoedd sydd wedi eu dicarboneiddio ac yn wydn o ran hinsawdd.
Ble mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ystyried y dylai twf fod?
Awgrymir tair Ardal Dwf Genedlaethol yn Y Cynllun Cenedlaethol ble bydd twf mewn cyflogaeth a thai, a buddsoddiad mewn seilwaith:
- Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd
- Bae Abertawe a Llanelli
- Wrecsam a Glannau Dyfrdwy
Ategir yr Ardaloedd Twf Cenedlaethol gan dair Ardal Dwf Ranbarthol a fydd yn tyfu, datblygu a chynnig amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus a masnachol ar raddfa ranbarthol:
- Y De Orllewin
- Y Canolbarth
- Y Gogledd
Nid eithrir datblygiad a thwf mewn trefi a phentrefi mewn ardaloedd gwledig ond dylent fod ar raddfa briodol ac yn cefnogi uchelgeisiau ac anghenion lleol. (Polisi 1).
Strategaeth Ofodol Cymru’r Dyfodol
Yn Y Cynllun Cenedlaethol ceir 36 polisi fel rhan o’r strategaeth ofodol fel a ganlyn;
Polisi 1 Ble bydd Cymru yn tyfu.
Polisi 2 Llywio Twf ac Adfywio Trefol – Creu Lleoedd Strategol.
Polisi 3 Cefnogi Twf ac Adfywio Trefol – Arweinyddiaeth y Sector Cyhoeddus.
Polisi 4 Cefnogi Cymunedau Gwledig.
Polisi 5 Cefnogi’r Economi Wledig.
Polisi 6 Rhoi Canol Trefi yn Gyntaf.
Polisi 7 Darparu Cartrefi Fforddiadwy.
Polisi 8 Llifogydd.
Polisi 9 Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd.
Polisi 10 Cysylltedd Rhyngwladol.
Polisi 11 Cysylltedd Cenedlaethol.
Polisi 12 Cysylltedd Rhanbarthol.
Polisi 13 Cefnogi Cyfathrebu Digidol.
Polisi 14 Cynllunio mewn Parthau Gweithredu Telathrebu Symudol.
Polisi 15 Fforest Genedlaethol.
Polisi 16 Rhwydweithiau Gwresogi.
Polisi 17 Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel a Seilwaith Cysylltiedig.
Polisi 18 Datblygiadau Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel o Arwyddocâd Cenedlaethol.
Polisi 19 Polisïau Strategol ar gyfer Cynllunio Rhanbarthol.
Mae Polisïau ychwanegol yn benodol i ranbarth a chyfeirir atynt isod.
Pa rai yw’r pedwar rhanbarth?
Mae’r Cynllun Cenedlaethol yn rhannu Cymru i bedwar rhanbarth cynllunio sydd â’u cyfleoedd a’u heriau unigryw eu hunain:
- Gogledd Cymru
- Canolbarth Cymru
- De Orllewin Cymru
- De Ddwyrain Cymru
Mae’n rhaid i o leiaf un Cynllun Datblygu Strategol ddeillio o bob un o’r rhanbarthau hyn.
Beth yw Cynllun Datblygu Strategol (CDS)?
Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yw cynllun rhanbarthol sydd wedi ei ddylunio i ddelio’n fwy effeithiol â materion croes-ffiniau a chyflawni atebion cynllunio gwell.
Dylai’r cynlluniau gynnwys strategaethau gofodol, hierarchaethau anheddau a chynlluniau ar gyfer darparu tai a chyflogaeth, ymysg materion rhanbarthol pwysig eraill.
Rhagwelir y bydd grwpiau o Awdurdodau Cynllunio Lleol, yn gweithio gyda rhanddalwyr eraill, yn paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol ymhob un o’r rhanbarthau.
Bydd y CDS yn cael eu paratoi mewn ffordd sy’n weddol debyg i Gynlluniau Datblygu Lleol ond ni fyddant yn cymryd eu lle. Bydd Cynlluniau Datblygu Lleol yn parhau i ganolbwyntio ar bolisïau cynllunio lleol ond gallant fod yn fyrrach ac â mwy o ffocws unwaith y bydd y CDS wedi ei fabwysiadu.
Mae’n rhaid bod y CDS, pan y’i cyhoeddir, mewn ‘Cydnawsedd Cyffredinol’ gyda’r Cynllun Cenedlaethol.
Beth mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ei ddweud am Ogledd Cymru?
Polisi 20 Ardal Dwf Genedlaethol – Wrecsam a Glannau Dyfrdwy
Polisi 21 Ardal Dwf Ranbarthol – Anheddau Arfordirol Gogledd Cymru
Polisi 22 Lleiniau Glas yn y Gogledd
Polisi 23 Metro’r Gogledd
Polisi 24 Gogledd Orllewin Cymru ac Ynni
16200 o gartrefi newydd i’w darparu dros gyfnod y cynllun yn cynnwys tai fforddiadwy (53%).
Rhan fwyaf o dwf yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
Twf gynaliadwy ac adnewyddu mewn trefi rhanbarthol pwysig ar hyd Arfordir y gogledd. Bydd Caergybi, Caernarfon, Bangor, Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl a Phrestatyn yn ffocws i dwf strategol i ategu Ardal Dwf Genedlaethol yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn nodi llain glas o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
Metro newydd i’r rhanbarth.
Prosiectau newydd yn ymwneud ag ynni i gefnogi buddiannau economaidd a chynnyrch carbon isel.
O ran egwyddor, cefnogir Wylfa Newydd a Thrawsfynydd.
Beth mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ei ddweud am Ganolbarth Cymru?
Polisi 25 Ardaloedd Twf Rhanbarthol – y Canolbarth
Polisi 26 Tyfu Economi’r Canolbarth
Polisi 27 Symudiadau yn y Canolbarth
1800 o gartrefi newydd i’w darparu dros gyfnod y cynllun yn cynnwys tai fforddiadwy (61%).
Twf a datblygiad cynaliadwy mewn cyfres o ardaloedd Twf Rhanbarthol.
Dylai’r Ardaloedd Twf Rhanbarthol gyflawni anghenion tai, cyflogaeth ac anghenion cymdeithasol rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Yr Ardaloedd Twf Rhanbarthol yw: Dyffryn Teifi, (yn cynnwys Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Llandysul a Llanbedr Pont Steffan), Aberhonddu a’r Gororau, Calon Cymru (yn cynnwys Llandrindod a Llanfair ym Muallt), Bro Hafren, (yn cynnwys Y Trallwng a’r Drenewydd) ac Aberystwyth.
Datblygiad ar draws y rhanbarthau er mwyn cyflawni anghenion lleol.
Cefnogaeth ar gyfer twf a datblygu cyfleoedd economaidd newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes.
Mae’n rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol ddatblygu polisïau sy’n cefnogi amaethyddiaeth a mentrau gwledig traddodiadol yn seiliedig ar y tir.
Darparu fframwaith hyblyg er mwyn cefnogi’r datblygiad o dechnolegau a sectorau newydd a mentrus sy’n dod i’r amlwg.
Cydweithio i sicrhau buddsoddi mewn trafnidiaeth er mwyn gwella hygyrchedd ar draws y Canolbarth a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y ffin.
Cynllunio twf ac adnewyddu er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd posibl sy’n codi o gysylltiadau rhanbarthol gwell.
Beth mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ei ddweud am Dde Orllewin Cymru?
Polisi 28 Ardal Dwf Genedlaethol – Bae Abertawe a Llanelli
Polisi 29 Ardaloedd Twf Rhanbarthol – Caerfyrddin a Threfi Porthladd Sir Benfro
Polisi 30 Lleiniau Glas yn y De Orllewin
Polisi 31 Metro’r De Orllewin
Polisi 32 Dyfrffordd y Ddau Gleddau ac Ynni
25600 o gartrefi newydd i’w darparu dros gyfnod y cynllun yn cynnwys tai fforddiadwy (44%).
Mae Bae Abertawe a Llanelli yn Ardal Dwf Genedlaethol.
Bae Abertawe a Llanelli fydd prif ffocws twf a buddsoddiad yn ardal y De Orllewin yn cynnwys twf economaidd a thai strategol; gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol; gweithgynhyrchu uwch; seilwaith trafnidiaeth a seilwaith digidol.
Mae Caerfyrddin aThrefi Porthladd Sir Benfro yn Ardaloedd Twf Rhanbarthol.
Ardaloedd Twf Rhanbarthol i gefnogi twf ac adnewyddu cynaliadwy yng Nghaerfyrddin, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro.
Y defnydd o Gynlluniau Datblygu Strategol i nodi a sefydlu lleiniau glas i reoli ffurf a thwf trefol yn y De Orllewin, yn enwedig o amgylch Bae Abertawe a Llanelli.
Datblygu Metro’r De Orllewin.
Dylai Cynlluniau Datblygu Strategol gefnogi twf ac adnewyddu o amgylch Metro’r De Orllewin.
Datblygiadau newydd adnewyddadwy posibl a rhai’n berthynol i ynni carbon isel, menter a buddsoddiad yn Nyfrffordd y Ddau Gleddau; dylid rhoi ystyriaeth i’r cyfraniad i gyflenwadau ynni di-garboneiddio, yr effaith ar y tirlun, morlun, yr amgylchedd naturiol a hanesyddol a’r manteision economaidd y byddant yn ei roi i’r rhanbarth.
Mewn egwyddor cefnogir datblygiadau ar y tir sy’n gysylltiedig â phrosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr.
Beth mae’r Cynllun Cenedlaethol yn ei ddweud am Dde Ddwyrain Cymru?
Polisi 33 Ardal Dwf Genedlaethol – Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd
Polisi 34 Lleiniau Glas yn y De Ddwyrain
Polisi 35 Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Polisi 36 Metro’r De Ddwyrain
66400 o gartrefi newydd i’w darparu dros gyfnod y cynllun yn cynnwys tai fforddiadwy (48%)
Mae Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd yn Ardal Dwf Genedlaethol.
Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd fydd y prif ffocws ar gyfer twf a buddsoddiad yn ardal y De Ddwyrain yn cynnwys twf economaidd a thai strategol; gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol; gweithgynhyrchu uwch; seilwaith trafnidiaeth a seilwaith digidol.
Gweithio ar y cyd, yn cynnwys rhanbarthau cyfagos yn Lloegr er mwyn hyrwyddo a gwella rôl strategol Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd.
Cefnogi statws Caerdydd fel dinas gystadleuol yn rhyngwladol a dinas graidd ar lwyfan y DU; cadw ac ymestyn ei rôl fel y brif ganolfan genedlaethol ar gyfer diwylliant, chwaraeon, hamdden, y cyfryngau, economi’r nos a chyllid.
Rôl Strategol gynyddol i Gasnewydd fel ffocws ar gyfer twf a buddsoddiad cynaliadwy a hirdymor.
Cefnogi adnewyddiad a buddsoddiad cydlynol yn ardal y Cymoedd er mwyn gwella llesiant, cynyddu ffyniant a delio ag anghydraddoldeb cymdeithasol.
Datblygiad yn y rhanbarth ehangach sy’n delio â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n deillio o leoliad daearyddol y rhanbarth a’i swyddogaethau fel Prifddinas-Ranbarth.
Nodi llain glas i’r gogledd o Gaerdydd, Casnewydd a rhan ddwyreiniol y rhanbarth er mwyn rheoli ffurf a thwf trefol. Ystyried cysylltiadau â Lleiniau Glas cyfagos yn Lloegr.
Ni ddylid caniatáu datblygiadau mawr yn yr ardaloedd a nodir ar gyfer lleiniau glas, ac eithrio amgylchiadau eithriadol, nes bo’r angen am leiniau glas a’u ffiniau wedi eu sefydlu mewn Cynllun Datblygu Strategol mabwysiedig.
Sefydlu Parc Rhanbarthol y Cymoedd.
Datblygu Metro’r De Ddwyrain.
Dylai Cynlluniau Strategol a Datblygiad Lleol gefnogi twf ac adnewyddu o amgylch Metro’r De Ddwyrain, yn cynnwys nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad dwysach, aml-ddefnydd, di-gerbyd o amgylch gorsafoedd metro newydd sydd wedi eu gwella.
Pryd bydd y Cynllun Cenedlaethol yn cael ei adolygu?
Disgwylir y bydd y Cynllun Cenedlaethol yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd. Bydd yr adolygiad yn ystyried 4 dangosydd cenedlaethol.
- Y Dangosyddion Cenedlaethol
- Dangosyddion Cymru’r Dyfodol sy’n gysylltiedig â pholisïau
- Yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
- Tystiolaeth gyd-destunol a ffactorau dylanwadol.
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir gweld Cynllun Cenedlaethol Cymru’r Dyfodol 2040 yn https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-02/future-wales-the-national-plan-2040.pdf
Yn ogystal, gellir gweld Canllaw i Gymru’r Dyfodol – Cwestiynau a Ofynnir yn Aml yn