Mae’r system gynllunio’n ymwneud â defnydd a datblygu tir sy’n diogelu buddiannau’r cyhoedd. Dros y blynyddoedd mae’r Llywodraeth wedi deddfu i egluro’r math o ddefnydd sy’n rhaid cael caniatâd cynllunio, y ffordd y dylai awdurdodau cynllunio lleol gynllunio, a gwneud penderfyniadau, ynghylch y defnydd tir yn eu hardal, a hawliau a chyfrifoldebau unigolion a sefydliadau.
Mae’r Llywodraeth yn cynhyrchu dogfennau polisi cynllunio ar lefel genedlaethol i ddisgrifio beth sy’n dderbyniol neu ddim yn nhermau cynllunio. Mae dogfennau polisi’n cynnwys polisïau cynllunio gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygiad. Mae rhai polisïau ond yn berthnasol i rai lleoedd megis parciau cenedlaethol. Penderfynir ar geisiadau cynllunio wedi ystyried polisïau a materion eraill sy’n berthnasol i’r penderfyniad.
Gosodir y polisi cynllunio cenedlaethol ar gyfer Cymru yn Polisi Cynllunio Cymru (a gyhoeddwyd yn 2002) a Polisi Cynllunio Mwynau Cymru (a gyhoeddwyd yn 2000). Yn y dogfennau hyn ceir y gofynion cenedlaethol ar gyfer cynllunio. Maent hefyd yn dylanwadu ar baratoi polisïau cynllunio lleol sy’n cael eu paratoi gan lywodraethau lleol. Mae polisïau cenedlaethol yn delio gyda materion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac yn gosod y cyfeiriad i ddefnyddio, datblygu neu warchod tir.
O bryd i’w gilydd diwygir un ai y cyfan neu rannau o’r ddwy ddogfen gynllunio cenedlaethol hyn. Os digwydd hyn, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynhyrchu dogfen ymgynghoriad ac yn gofyn i amrediad eang o sefydliadau am eu barn. Gall unrhyw un ysgrifennu i roi eu barn ar y newid mewn polisi cenedlaethol a gynigiwyd – cliciwch ar y tab ‘ymgynghoriadau’ yn y ddewislen ar yr ochr chwith i weld newidiadau polisi cenedlaethol sydd dan ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Unwaith bydd yr ymatebion wedi eu hystyried, rhoddir y fersiwn derfynol ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Yn dilyn adolygiad llawn o’r polisi cenedlaethol cynhyrchir fersiwn newydd o Polisi Cynllunio Cymru neu Polisi Cynllunio Mwynau Cymru. Bydd adolygiad rhannol o’r polisi cenedlaethol yn cael ei gyflwyno mewn ‘Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog’.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn cynhyrchu amrediad eang o Nodiadau Cyngor Technegol (‘NCT’, neu ‘TAN’ yn Saesneg). Dogfennau mwy manwl yw’r rhain sy’n delio gyda materion penodol megis tai, siopa, twristiaeth, ffermio, gwastraff, dylunio ac ati. Gall y dogfennau hyn hefyd fod yn berthnasol i rai penderfyniadau cynllunio. O bryd i’w gilydd gall Nodiadau Cyngor Technegol gael eu diwygio. Os digwydd hyn, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynhyrchu dogfen ymgynghoriad ac yn gofyn i amrediad eang o sefydliadau am eu barn. Gall unrhyw un ysgrifennu i roi eu barn ar y newid mewn polisi cenedlaethol a gynigiwyd – cliciwch ar y tab ‘ymgynghoriadau’ yn y ddewislen ar yr ochr chwith i weld newidiadau polisi cenedlaethol sydd dan ymgynghoriad ar hyn o bryd.