Rhoddion

Cyfrannu’n ariannol at Gymorth Cynllunio Cymru

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen gofrestredig heb y bwriad o wneud elw. Rydym yn darparu cyngor diduedd a gwybodaeth ar faterion cynllunio i bobl sydd methu fforddio talu am wasanaeth ymgynghorydd cynllunio, neu sy’n dod ar draws rhwystrau sy’n eu hatal rhag ymwneud â’r system gynllunio.

Er ein bod yn derbyn arian craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru i’n cynorthwyo gyda’n costau o ddydd i ddydd rydym hefyd yn dibynnu ar roddion gan aelodau’r cyhoedd er mwyn inni barhau i ddatblygu’n gwasanaethau a’n gweithgareddau. Byddwn yn ddiolchgar iawn i dderbyn unrhyw gyfraniad ariannol yr hoffech ei roi i gefnogi’n gwaith.

Mae dwy ffordd y gallwch gyfrannau at Gymorth Cynllunio Cymru:

1. Gwneud cyfraniad arlein

allwn dderbyn cyfraniadau arlein trwy gerdyn credyd neu trwy drosglwyddiad uniongyrchol o’ch cyfrif PayPal.

I wneud cyfraniad arlein, cliciwch ar y ddolen isod fydd yn eich cymryd at ein sgrîn rhodddion PayPal. Ar y sgrîn hon, mewnbwniwch faint rydych am ei gyfrannu, ac un ai logio i mewn i’ch cyfrif PayPal neu roi eich manylion cerdyn credyd i wneud taliad.

Rydym wedi’n cofrestru dan y Cynllun Cymorth Rhodd sy’n rhoi ad-daliad treth incwm i elusennau ar roddion gan aelodau’r cyhoedd. Ceir mwy o wybodaeth ar y Cynllun Cymorth Rhodd ar wefan Directgov.

Os hoffech wneud cyfraniad dan y Cynllun Cymorth Rhodd byddwch cystal â chwblhau’r Ffurflen Ddatganiad sydd ynghlwm a’i hanfon.

Cliciwch ar y ddolen isod i wneud cyfraniad arlein:

Gift Aid Declaration Form

2. Gwneud cyfraniad gyda siec

Gallwn dderbyn cyfraniadau ar sieciau.

Os hoffech wneud cyfraniad, byddwch cystal ag anfon siec i’w thalu i ‘Cymorth Cynllunio Cymru’ i’r cyfeiriad isod. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw adborth ar ein gwasanaethau gyda’ch cyfraniad.

Cymorth Cynllunio Cymru
Y Llawr Cyntaf,
174 Heol yr Eglwys Newydd
Y Mynydd Bychan, Caerdydd.
CF14 3NB

Os hoffech wneud cyfraniad gyda siec dan y Cynllun Cymorth Rhodd byddwch cystal â phrintio’r Ffurflen Ddatganiad sydd ynghlwm ai hanfon gyda’r siec.

Share via
Share via
Send this to a friend