Gwybodaeth am eich awdurdod cynllunio lleolEich awdurdod cynllunio lleol sy’n gyfrifol am gynllunio yn eich ardal. Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud dau brif beth:
1. Mae’n paratoi ‘cynllun datblygu’ ar gyfer ardal yr awdurdod. Mae’r cynllun datblygu yn edrych ymlaen rhwng 10 a 15 mlynedd i’r dyfodol ac yn disgrifio’r mathau o ddatblygiad a ddylai ddigwydd mewn gwahanol ardaloedd.
2. Mae’n penderfynu ar geisiadau cynllunio.
Fel arfer, eich cyngor dinesig, sirol neu fwrdeistref yw eich awdurdod cynllunio lleol. Ond os ydych chi’n byw mewn parc cenedlaethol, yr awdurdod cynllunio lleol yw awdurdod y parc cenedlaethol.