Paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol ar draws Cymru – Ymgynghoriad Cyhoeddus

Ar Hydref 12fed 2020 lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu safbwyntiau ar eu polisi arfaethedig ynghylch y ddeddfwriaeth fydd yn ofynnol er mwyn sefydlu gweithdrefn ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) ar draws Cymru.

Bwriad y polisi yw cyflwyno dull mwy strategol o greu cynlluniau ar raddfa fwy na Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Mae Llywodraeth Cymru yn datgan, “Nodwyd bod angen i wella sut mae’r system gynllunio yn delio â materion sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, er mwyn adlewyrchu sut mae pobl yn byw eu bywydau heddiw ac yn y dyfodol.”

Cynigir bod CDS yn caniatáu “materion mwy na materion lleol, megis nifer o dai, dosraniad tai strategol, safleoedd cyflogaeth strategol, llwybrau isadeiledd gwyrdd strategol, cefnogi isadeiledd trafnidiaeth sy’n torri ar draws nifer o ardaloedd Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) i’w hystyried a chynllunio ar eu cyfer mewn dull integredig a chynhwysfawr”. 

Mae’r ddogfen ymgynghori yn awgrymu mai’r canlyniad fydd bod y CDS yn sicrhau canlyniadau cynllunio mwy effeithiol ac effeithlon i gymunedau – ydych chi’n cytuno?

Byddwch cystal â dilyn y ddolen isod ble gallwch gyflwyno eich safbwyntiau un ai ar-lein, ar ebost neu ar ffurflen ymateb i’w dychwelyd drwy’r post.

Mae’n rhaid cyflwyno’r sylwadau erbyn Ionawr 4ydd 2021.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth>>

Ffynhonnell: Dogfen Ymgynghorol Llywodraeth Cymru – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2021 – Dyddiad cyhoeddi: Hydref 12fed 2020

Share via
Share via
Send this to a friend