Deall Lleoedd Cymru
Bydd data newydd ar gyfer gwefan Deall Lleoedd Cymru yn dangos mynediad trefi i fannau gwyrdd, argaeledd band eang, nifer y toiledau cyhoeddus, ystadegau iechyd meddwl a llawer mwy.
Bydd data newydd ar gyfer gwefan Deall Lleoedd Cymru yn dangos mynediad trefi i fannau gwyrdd, argaeledd band eang, nifer y toiledau cyhoeddus, ystadegau iechyd meddwl a llawer mwy.
Ar Hydref 12fed 2020 lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu safbwyntiau ar eu polisi arfaethedig ynghylch y ddeddfwriaeth fydd yn ofynnol er mwyn sefydlu gweithdrefn ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) ar draws Cymru.
Ar fedi 24ain 2020, lansiodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y Siarter newydd i Gymru ar Greu Lleoedd yng Nghynadledd Fyw Cynllunwyr Cymru. Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn falch i gadarnhau ei fod yn un o lofnodwyr y Siarter ac yn ymrwymo’r sefydliad i’r egwyddorion ac i gefnogi Creu Lleoedd ar draws Cymru.
Ysgrifennwn atoch i ofyn am eich cymorth gydag astudiaeth mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ei chynnal ar werth ymgysylltiad y gymuned â chynllunio yng Nghymru.
Cefnogir ac ystyrir y gwaith hwn gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru ymchwiliad i effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.
Cynhyrchwyd ein cwrs blaenllaw newydd ‘Cynllunio: O’r Dechrau i’r Diwedd’ yn benodol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn gyflwyniad perffaith i, neu’n fodd o loywi, holl agweddau y system gynllunio yng Nghymru.
Cymorth Cynllunio Cymru Cyfyngedig
HYSBYSIAD O’R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
Rhoddir hysbysiad yma y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymorth Cynllunio Cymru 2020 ym mhrif swyddfa Cymorth Cynllunio Cymru, Llawr Cyntaf, 174 Heol yr Eglwys Newydd, Y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 3NB ar Ddydd Llun, Mehefin 15fed 2020 am 4.30yp.
Materion busnes y cyfarfod fydd:
Mae hawl gan aelod o’r cwmni i apwyntio unigolyn arall fel ei ddirprwy i arfer unrhywrai o’i hawliau i fynychu a siarad a phleidleisio mewn cyfarfod y cwmni.
Cylchredir ffurflenni dirprwyo cyn y cyfarfod a fydd yn esbonio’r gweithdrefnau a’r agenda yn fwy manwl, ond dylech nodi gellir ond cofrestru eich bod yn mynychu’r cyfarfod os bydd y ffurflen hon wedi ei chwblhau a’i dychwelyd cyn y cyfarfod. Mae mynychu trwy ddirprwyaeth yn cyfrif fel mynychu ar gyfer dibenion ffurfiol.
Mae Mesurau a Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ddyddiad yr hysbysiad hwn yn golygu mai dim ond cyfanswm o ddau unigolyn a all fynychu ac felly yn gyffredinol nid yw aelodau’n gallu mynychu yn bersonol. Yn unol â’r canllawiau hyn, bydd dau gynrychiolydd Cymorth Cynllunio Cymru yn gweithredu fel dirprwyon ac yn bresennol yn gorfforol (gan gymryd sylw o bellter cymdeithasol) yn Swyddfa Caerdydd er mwyn sicrhau bod y cyfarfod â chworwm i gynnal busnes ffurfiol y cyfarfod.
Ar ran y Bwrdd
James Davies, Prif Weithredwr
20 Mai 2020
Cymorth Cynllunio Cymru ein canmol yn ein categori Tîm Cynllunio Mewnol y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cynllunio Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol 2020 a gynhaliwyd yn rhithwir ar You Tube ar Ebrill 30ain 2020.
Gwobrau Rhagoriaeth Cynllunio Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yw’r gwobrau mwyaf eu parch sydd wedi eu hen sefydlu yn niwydiant cynllunio. Maent wedi eu cynnal am dros 40 mlynedd, ac maent yn dathlu enghreifftiau rhagorol o gynllunio a’r cyfraniad mae cynllunwyr yn ei wneud i gymdeithas.
Yng nghyfrol Mai y cylchgrawn The Planner cyfrannodd Cymorth Cynllunio Cymru i erthygl ar “Dylunio ar gyfer Bywyd”. Mae’r erthygl yn ystyried Cyd-Ddylunio a’i egwyddor o weithio’n gydradd â dinasyddion ar ddylunio adeiladau a chynefinoedd.
Rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r diweddaraf i chi ynghylch y newidiadau i weithgareddau Cymorth Cynllunio Cymru mewn ymateb i’r pandemig COVID-19:
Ar nodyn cadarnhaol, roedd, a mae, Cymorth Cynllunio Cymru ar fin lansio llwyfan hyfforddi ar-lein – ceir mwy o newyddion am hyn yn Ebrill. Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu gweminarau (webinars) byw yn fuan. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gweithgareddau hyn, gadewch i ni wybod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon cofiwch y gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol trwy [email protected] neu ar 02920 625004
Diolch am eich cefnogaeth barhaus a chadwch yn ddiogel.