Angen Ymhynghorydd Adnoddau Dynol: Adolygiad o’r Llawlyfr Cyflogaeth

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn chwilio am ymgynghorydd Adnoddau Dynol profiadol neu arbenigwr cyfraith cyflogaeth i adolygu a diweddaru ei lawlyfr cyflogaeth a’i bolisïau staff.

Bydd y gwaith yn cynnwys adolygu’r llawlyfr presennol, gwirio ei fod yn cyd-fynd â chontractau staff, ac arferion cyfredol y sefydliad, diweddaru polisïau i adlewyrchu’r gyfraith gyflogaeth ddiweddaraf, a pharatoi polisïau iechyd meddwl a menopos.

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn ymgynghorwyr sydd â phrofiad o gefnogi elusennau bach, sefydliadau’r trydydd sector neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Dylai unigolion sydd â diddordeb gyflwyno crynodeb byr o’u profiad, eu dull gweithredu arfaethedig, yr amserlen arfaethedig, a’u ffi.
Dylid anfon datganiadau o ddiddordeb i [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2026.