Yn Cyflwyno… Cynlluniau Datblygu Strategol

This event has ended

Hoffai Cymorth Cynllunio Cymru wahodd yr holl Gynghorau Cymuned a Thref a grwpiau cymunedol yng Nghymru i un o bedwar seminar hyfforddi ar-lein ar Gynlluniau Datblygu Strategol ym mis Chwefror 2024.

Mae penderfyniadau ar bob cais cynllunio yng Nghymru yn cael eu gwneud ar hyn o bryd yn erbyn cynlluniau a pholisïau datblygu lleol a chenedlaethol. Yn y dyfodol, bydd penderfyniadau hefyd yn cael eu gwneud yn erbyn y math newydd hwn o gynllun rhanbarthol.

Bydd pedwar Cynllun Datblygu Strategol newydd yn cael eu cynhyrchu, un yr un ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.

Mae’r cynlluniau hyn yn hynod bwysig oherwydd byddant yn nodi maint a lleoliad twf tai a chyflogaeth ym mhob rhanbarth a byddant yn dyrannu safleoedd strategol i’w datblygu.

Wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cynrychiolwyr cymunedol, bydd y pedwar seminar hyfforddi ar-lein 2.5 awr yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Y system cynllun datblygu yng Nghymru a’r hyn mae’n ei olygu i gymunedau
  • Beth yw Cynlluniau Datblygu Strategol a sut y byddant yn cael eu paratoi;
  • Yr effeithiau y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol yn eu cael ar y system cynllun datblygu a,
  • Pam a sut y dylai cymunedau ymgysylltu â pharatoi’r cynlluniau hyn.

Yn ogystal â chyflwyniadau ar yr uchod, bydd y cyrsiau’n cynnwys ymarferion rhyngweithiol a nifer o gyfleoedd ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

 

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>