Cynllunio Seilwaith: Bord Gron Persbectifau Cymunedol
-
Dyddiad
18th Tachwedd 2026
-
Amser
12:00 yp - 2:00 yp
Sesiwn archwiliol wedi’i hwyluso i gyflwyno’r cwestiynau a’r materion sydd gan gymunedau ynglŷn â’r broses gynllunio seilwaith cenedlaethol newydd yng Nghymru.
Wrth i’r system gynllunio seilwaith newydd gael ei sefydlu yng Nghymru, mae’r bwrdd crwn rhyngweithiol hwn yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr cymunedol drafod eu profiadau o ymgysylltu â Phrosiectau Seilwaith Sylweddol (PSSs).
Dewch â’ch cwestiynau, rhannwch enghreifftiau o’ch ardal eich hun a chlywch gan eraill sy’n wynebu cyfleoedd a heriau tebyg. Bydd y drafodaeth yn archwilio sut mae cymunedau’n ymgysylltu â’r broses newydd, beth sy’n gweithio’n dda, a lle y gallai fod angen rhagor o gefnogaeth.