Hysbysiad o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cymorth Cynllunio Cymru Cyfyngedig

HYSBYSIAD O’R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Rhoddir hysbysiad yma y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymorth Cynllunio Cymru 2025  ar-lein ac yn Sefydliad Chwaraeon Caerdydd, Gerddi Sophia, Pontcanna, Caerdydd CF11 9SW (Opsiwn i ymuno o bell, bydd angen cyfeiriad e-bost) ddydd Llun 23 Mehefin 2025 am 4yp.

Materion busnes y cyfarfod fydd:

  1. pleidleisio ar apwyntio Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn i ddod
  2. ystyried a phleidleisio ar gymeradwyo cyfrifon y cwmni 2024-25
  3. ystyried a phleidleisio ar gymeradwyo’r adroddiad blynyddol
  4. ystyried a phleidleisio ar unrhyw fater arall a godir yn briodol

Mae hawl gan aelod o’r cwmni i apwyntio unigolyn arall fel ei ddirprwy i arfer unrhywrai o’i hawliau i fynychu a siarad a phleidleisio mewn cyfarfod y cwmni.

Cylchredir ffurflenni dirprwyo cyn y cyfarfod a fydd yn esbonio’r gweithdrefnau a’r agenda yn fwy manwl, ond dylech nodi gellir ond cofrestru eich bod yn mynychu’r cyfarfod os bydd y ffurflen hon wedi ei chwblhau a’i dychwelyd cyn y cyfarfod. Mae mynychu trwy ddirprwyaeth yn cyfrif fel mynychu ar gyfer dibenion ffurfiol.

Yn unol â’r canllawiau hyn, bydd dau gynrychiolydd Cymorth Cynllunio Cymru yn gweithredu fel dirprwyon ac yn bresennol yn gorfforol er mwyn sicrhau bod y cyfarfod â chworwm i gynnal busnes ffurfiol y cyfarfod.

Os hoffech chi ymuno fel arsylwr yn bersonol neu ar-lein e-bost at: [email protected]

Ar ran y Bwrdd

James Davies, Prif Weithredwr

20 Mai 2025