Ein Pwrpas a’n Dull o Ymgysylltu â’r Gymuned
Elusen sy’n seiliedig ar werthoedd yw Cymorth Cynllunio Cymru, a sefydlwyd i alluogi cyfranogiad gwybodus, teg ac ystyrlon gan bobl a chymunedau yng Nghymru ym maes cynllunio, cynllunio bro, a chreu lleoedd. Rydym ni’n helpu pobl i ddeall pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud, sut a phryd y gallant ddylanwadu arnynt, a pha gyfyngiadau sy’n bodoli yn y system gynllunio, gan weithio i wella sut mae’r system honno’n gwrando ar gymunedau ac yn eu cynnwys.
Ein pwrpas yw hwyluso ymgysylltiad ystyrlon i ychwanegu gwerth at y broses gynllunio – nid i reoli, cymedroli, na gwanhau barn y gymuned. Mae ein dull yn seiliedig ar ganfyddiadau Gwerth Ymgysylltu mewn Cynllunio yng Nghymru (gweler yr adroddiadau yma).
Nid ydym yn hyrwyddo nac yn cymeradwyo datblygiadau; yn amddiffyn polisïau; yn eiriol dros ganlyniadau cynllunio penodol; ac nid ydym yn rhan o benderfyniadau cynllunio.
Mae ein holl waith yn cael ei lywio gan egwyddorion clir:
- Cynhwysiant – galluogi cyfranogiad gan ystod eang ac amrywiol o bobl, yn enwedig y rhai y mae eu lleisiau’n cael eu clywed yn llai aml.
- Eglurder – bod yn onest ac yn agored ynglŷn â phwrpas ymgysylltu, yr hyn y gellir a’r hyn na ellir dylanwadu arno, a sut mae adborth yn cael ei ddefnyddio.
- Annibyniaeth – hwyluso ymgysylltu’n ddiduedd, heb eiriol dros ganlyniadau a bennwyd ymlaen llaw.
- Parch – cydnabod gwerth gwybodaeth leol, profiad byw, a safbwyntiau gwahanol.
- Tryloywder – egluro ein rôl, ein cylch gwaith, a therfynau ein cyfranogiad yn glir.
Yn ei hanfod, mae Cymorth Cynllunio Cymru yn bodoli i sicrhau bod gan bobl a chymunedau yng Nghymru yr adnoddau, yr hyder a’r cyfle i gymryd rhan yn effeithiol yn y penderfyniadau sy’n llywio’r lleoedd lle maen nhw’n byw — nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Llofnodwyd,

James Davies
Prif Weithredwr
Ar ran Bwrdd Rheoli Cymorth Cynllunio Cymru