Creu Lleoedd i’r Gymraeg Ffynnu

Ar 25 Tachwedd 2021, cynhaliodd Cymorth Cynllunio Cymru ac IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith Cymru, gynhadledd fini ar y cyd ar lein a ddaeth at ei gilydd, gynllunwyr, arbenigwyr y Gymraeg a Chynghorau Cymuned a Thref sy’n cymryd camau i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, cefnogi’r defnydd o Gymraeg yn eu cymunedau ac yn ystyried, neu’n cymryd rhan, mewn cynllunio a chreu lleoedd.

Elusen yw Cymorth Cynllunio Cymru sy’n cefnogi ymgysylltiad cymunedol yn y system cynllunio yng Nghymru. IAITH yw ganolfan rhagoriaeth y Gymraeg sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn datblygu ymarferion dwyieithog. Cyflwynwyd y digwyddiad mewn partneriaeth fel rhan o raglen flynyddol ddigwyddiadau rhwydwaith Cymorth Cynllunio Cymru i ddod â chynllunwyr a chymunedau ynghyd i drafod pynciau cynllunio perthnasol.

Rhoddodd y weminar drosolwg o gyd-destun polisi cynllunio’r Gymraeg gan gyflwyno astudiaethau achos ledled Cymru ble mae gwaith datblygu cymunedol a phenderfyniadau cynllunio wedi talu sylw i hyn, mewn mannau gwledig a threfol. Canolbwyntiodd y digwyddiad hefyd ar gyfraniad cynllunio at Nod Llesiant y Gymraeg sy’n Ffynnu a sut mae’n rhaid iddo sicrhau fod yr amodau hynny sy’n hanfodol i’r Gymraeg ffynnu yn cael eu hystyried. Derbyniodd cyfranogwyr hefyd wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, a ffynonellau o wybodaeth am y Gymraeg yn eu hardaloedd a fydd yn eu galluogi i gyfrannu at yr agwedd hon o Greu Lleoedd.

Roedd Cymorth Cynllunio Cymru ac IAITH yn falch ac yn ddiolchgar o groesawu siaradwyr o bob rhan o Gymru sy’n weithgar ar lefel gymunedol ac iaith a chynllunwyr gofodol a ddarparodd astudiaethau achos o’u gwaith. Mae’r canlynol yn grynodeb o’r prif bwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad.

Roedd 36 o gynrychiolwyr a siaradwyr yn bresennol yn y digwyddiad a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gynghorau Cymuned a Thref, grwpiau cymunedol, awdurdodau cynllunio lleol.

Darllenwch y crynodeb llawn yma>>

Share via
Share via
Send this to a friend