Allwch chi helpu i lunio dyfodol Ardal Bae Colwyn?
Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi bod yn cynnal ymgysylltiad cymunedol yn Ardal Bae Colwyn fel rhan o’i rôl yn datblygu Cynllun Cynefin Colwyn.
Hyd yma mae hyn wedi cynnwys cynnal gweithdy a chystadleuaeth gelf gyda phlant lleol o amgylch Ardal Bae Colwyn, hwyluso cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar-lein, yn cynnwys arolwg ar-lein, map Gwirio Lle a grwpiau ffocws ar-lein a hefyd cynnal dwy sesiwn ‘galw i mewn’ yn Llandrillo-yn-Rhos a Colwyn Heights.
Mae digon o ddigwyddiadau eto i ddod …
Sesiynau Galw i mewn:
Canolfan Siopa Bay View: Dydd Mawrth, Mehefin 28ain, 12yp – 5yp
Old Methodist Church: Dydd Iau, Mehefin 30ain, 2yp – 6yh
Grwpiau Ffocws Ar-lein:
I’r rhai sy’n cael trafferth i gyfarfod wyneb yn wyneb rydym yn cynnal 4 grŵp ffocws ar-lein. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i amser a dyddiad sy’n gweddu i chi:
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth>>
Arolwg Ar-lein a Map Gwirio Lle: SYLWCH: MAE’R AROLWG WEDI CAU.
Yn ogystal â’r digwyddiadau rydyn ni hefyd yn cynnal arolwg ar-lein neu fap Gwirio Lle rhyngweithio ble gall unrhywun rannu eu safbwyntiau. Dilynwch y ddolen isod i ddarganfod mwy:
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth>>
Gweithdai mewn Ysgolion
Ym Mehefin, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn Ysgol Uwchradd Eirias ac Ysgol Bod Alaw i gynnal gweithdai ychwanegol gyda mwy o blant ysgol er mwyn dod i wybod am flaenoriaethau pobl ifanc sy’n byw yn ardal Bae Colwyn.