Cymorth Cynllunio Cymru yn dathlu 40 mlynedd

Wrth amlygu bod Llywodraeth Cymru yn falch eu bod wedi cyllido Cymorth Cynllunio Cymru am y 15 mlynedd diwethaf, esboniodd Julie hefyd bod “Llywodraeth Cymru yn bwriadu ail-archwilio rôl ymgynghoriaeth, ymgysylltiad a chyfranogaeth yn y system gynllunio ac yr hoffai Cymorth Cynllunio Cymru i gynorthwyo gyda’r siwrnai gyffrous hon.”

 

Yn y digwyddiad daeth sylfaenwyr, gwirfoddolwyr a chyfeillion y sefydliad at ei gilydd. Bu Richard a Sue Essex, dau o sylfaenwyr a gwirfoddolwyr cynnar Gwasanaeth Cymorth Cynllunio De Cymru, yn sôn am hanesion sefydlu’r gwasanaeth tra’n magu teulu ifanc ac yn delio ag ymholiadau cynllunio o’u bwrdd yn y gegin.

 

Amlygodd Richard a Sue angen y cyhoedd i gael gafael ar wasanaeth cynllunio diduedd a chyfeillgar 40 mlynedd yn ôl, sef angen sy’n bodoli hyd heddiw.  Roeddent hefyd yn cydnabod gwerth yr hyfforddiant rhagweithiol a’r gwaith prosiect mae Cymorth Cynllunio Cymru yn ei draddodi er mwyn cynorthwyo cynyddu gallu cymunedau i ddweud eu dweud ar faterion cynllunio.

 

Amlygodd Ian Stevens, Cadeirydd Cymorth Cynllunio Cymru, rai o lwyddiannau diweddar y sefydliad gan esbonio ein bod wedi helpu 5,672 o bobl i ddeall ac i ymgysylltu â’r system gynllunio yn y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, lansiodd Ian fideo newydd a chanllaw ysgrifenedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a gynhyrchwyd gan y sefydliad a phwysleisiodd y gwaith da mae’r sefydliad yn ei wneud ar godi ymwybyddiaeth a helpu cynghorau cymuned i ddod i’r afael â Chynlluniau Cynefin.

 

Hefyd dywedodd Ian “Wrth gwrs, ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr ymroddgar, ein Cyfarwyddwyr a’n timau staff dros y 40 mlynedd diwethaf ac eto hoffwn fynegi fy niolch twymgalon iddynt oll.”

 

Wrth ddod â’r digwyddiad i’r terfyn dywedodd James Davies, Prif Weithredwr Cymorth Cynllunio Cymru “Bydd ein Llinell Gymorth, a gychwynnodd fel cyngor ar y ffôn, yn parhau i fod yn rhan sylfaenol o’r hyn a wnawn a byddwn yn parhau i recriwtio cynllunwyr i wirfoddoli ledled Cymru i’n cynorthwyo i gyflenwi’r gwasanaeth hwn. Rydym hefyd yn cwmpasu dulliau mentrus i hwyluso ymgysylltiad – yn ogystal â’n gwaith ar Gynlluniau Cynefin, rydym yn archwilio cyfleoedd i ymgysylltiad digidol i ledaenu’r gair ac i ymgysylltu mwy o bobl yn effeithiol yn y broses gynllunio.”

 

Gorffennodd y digwyddiad gyda derbyniad diod ble roedd staff Cymorth Cynllunio Cymru, Aelodau’r Bwrdd, gwirfoddolwyr presennol ac o’r gorffennol, sefydliadau sy’n bartneriaid allweddol a chyfeillion wedi mwynhau amser yn dwyn atgofion am eu cyfranogaeth i Gymorth Cynllunio Cymru dros y 40 mlynedd llwyddiannus diwethaf.

 

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen sy’n cefnogi ymgysylltiad cymunedol â chynllunio yng Nghymru.  Sefydlwyd y sefydliad yn 1978 gan gynllunwyr gwirfoddol o gangen De Cymru o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a daeth yn elusen gofrestredig annibynnol ac yn gwmni cyfyngedig yn 1990.  Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a chefnogaeth barhaus gwirfoddolwyr, mae Cymorth Cynllunio Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys llinell gymorth sy’n rhoi cyngor cynllunio am ddim, ystod eang o ganllawiau cynllunio ar-lein, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a gwasanaethau cefnogi ymgysylltiad cymunedol.

 

Os hoffech gyfrannu’n ariannol at Cymorth Cynllunio Cymru, cliciwch yma.

 

Am fwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda Cymorth Cynllunio Cymru, cliciwch yma.

Share via
Share via
Send this to a friend