Adeiladu Caerdydd a’r Fro sy’n Gyfeillgar i Blant
Yn ddiweddar cynhaliwyd symposiwm gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – “Adeiladu Caerdydd a’r Fro sy’n Gyfeillgar i Blant”. Roedd y digwyddiad cyntaf llwyddiannus hwn wedi canolbwyntio ar asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd i sichrau y clywir lleisiau plant a phobl ifanc ac i gynyddu a hyrwyddo amgylcheddau sy’n gyfeillgar i blant yn y lleoedd a’r gwagleoedd maent yn byw ynddynt.
Siaradodd Yr Athro Neil Frude, y prif siaradwr o Brifysgol Caerdydd, yn angerddol am helpu plant i fod yn hapus ac i ffynnu. Gwnaeth y sylw y gall plant gael bywydau cyfoethocach a mwy diddorol pan fo rhieni, ysgolion a dinasoedd yn darparu amgylchedd hygyrch, gyfoethog ble cânt gyfle i brofi ystod eang o leoliadau, amwynderau a digwyddiadau.
Cyflwynodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, y ‘Dull Hawliau Plant yng Nghymru’, sef fframwaith ar gyfer gweithio gyda phlant, i helpu cyrff cyhoeddus i gyfannu hawliau plant i bob agwedd o wneud penderfyniadau, o bolisi ac o ymarfer. Amlygwyd hefyd y rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Gyfeillgar i Blant a arweinir gan UNICEF, sy’n gweithio gyda dinasoedd fel Caerdydd i’w helpu i greu mannau ble mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu clywed ac yn gallu ffynnu.
Yn y digwyddiad cynhaliwyd amrediad o weithdai ble roedd proffesiynolwyr o nifer o gefndiroedd yn cynnwys iechyd, addysg a defnydd tir yn siarad yn agored gyda phobl ifanc er mwyn cael mewnwelediad i’r hyn maen nhw’n deimlo sy’n bwysig iddyn nhw ynghylch amgylchedd sy’n gyfeillgar i blant. Un gweithdy nodweddiadol oedd trafodaeth ynghylch adnodd “Cynllunio ein Cymru” gan Lywodraeth Cymru. Anelir yr adnodd at gael y plant i feddwl am yr elfennau sy’n creu lle da neu lle gwael i fyw ynddo yn nhermau trafnidiaeth, amgylchedd, gweithgareddau a chymuned.
Gweler y ddolen i adnodd Llywodraeth Cymru isod:
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth>>
Mae prif siaradwr y prynhawn, Jenny Wood, Cyd-Sylfaenydd “Lle Mewn Plentyndod” (A Place in Childhood) wedi darparu adnodd ar-lein “Cynllunio Trefi ar gyfer Dinas sy’n gyfeillgar i Blant” (Town Planning for the Child Friendly City) a welir isod:
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth>>
Mae Jenny Wood yn amlinellu y dylai model dinas sy’n gyfeillgar i blant ganiatáu i blant a phobl ifanc gael yr hawl i ymgynnull, chwarae a chyfrannu ac y dylai hyn fod wrth galon Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Hefyd dylai Polisi Cenedlaethol ganiatáu i blant gael yr hawl i gael eu cynnwys mewn penderfyniadau cynllunio. Yn ogystal, mae Jenny yn argymell y dylid cydnabod plant fel grŵp eithriadol a chydnabod y gwahaniaeth rhwng plant a phobl ifanc. Anogir canolbwyntio ar gynllunio gyda chanlyniadau sy’n gyfeillgar i blant mewn golwg, ynghyd â dysgu a chydweithio i Gynllunwyr sy’n rhwydweithio gyda phroffesiynolwyr Plant ac Ieuenctid.
Nodwyd bod Cymru yn arwain y ffordd yn y gwaith hwn ac mae Cymorth Cynllunio Cymru yn fawr eu cymeradwyaeth o annog plant a phobl ifanc yn weithredol i gymryd rhan yn y system gynllunio yng Nghymru ac i ddweud eu dweud!