Diweddariad oddi wrth ein Prif Weithredwr

Rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r diweddaraf i chi ynghylch y newidiadau i weithgareddau Cymorth Cynllunio Cymru mewn ymateb i’r pandemig COVID-19:

  • Mae holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb CCC wedi eu canslo ac ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau eraill tan eich hysbysir.
  • Bydd y tîm staff yn gweithio o’u cartrefi a bydd y rhifau ffôn a’r cyfeiriadau ebost yn parhau yr un fath.
  • Bydd llinell gymorth CCC yn parhau i fod ar agor. (02920 625000)

Ar nodyn cadarnhaol, roedd, a mae, Cymorth Cynllunio Cymru ar fin lansio llwyfan hyfforddi ar-lein – ceir mwy o newyddion am hyn yn Ebrill.  Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu gweminarau (webinars) byw yn fuan.  Os oes gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gweithgareddau hyn, gadewch i ni wybod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon  cofiwch y gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol trwy [email protected] neu ar 02920 625004

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a chadwch yn ddiogel.

Share via
Share via
Send this to a friend