Mae Cynllun Cynefin Colwyn wedi cyrraedd!
Ar ôl misoedd lawer o waith gan y Grŵp Llywio, rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned – rydym yn falch i gyhoeddi bod Cynllun Lle Colwyn bellach wedi’i lansio a chafodd ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Gyngor Tref Bae Colwyn ar 22ain Ionawr 2024.
Ac i ddathlu…..cynhaliwyd digwyddiad lansio yn Oriel a Lolfa INK
Roedd yn ffordd wych i ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac i edrych ymlaen at y prosiectau rydym am ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol. Roedd yn diwrnod oer a brochus – ond daeth cymuned Colwyn allan ei niferoedd, a braf oedd gweld cymaint o bobl yn bresennol. Diolch!
‘Darn o waith ardderchog a fydd yn rhoi hwb a chyfeiriad i’r dref am nifer dda o flynyddoedd. Roeddwn wrth fy modd iddo gael ei gymeradwyo’n unfrydol gan Gyngor y Dref.’ Arthur – Mynychodd y lansiad yn oriel INK
Cliciwch yma I wylio ffilm fer o’r digwyddiad>>
Gallwch ddarllen y Cynllun Cynefin yma>>
Gweld ein ffilm ddogfen fer newydd yma>>
Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch ag [email protected] neu ffoniwch Gyngor Tref Bae Colwyn ar 01492 532248.