Hysbysiad o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cymorth Cynllunio Cymru Cyfyngedig

HYSBYSIAD O’R CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Rhoddir hysbysiad yma y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymorth Cynllunio Cymru 2023  ar-lein ac ym Mhrifysgol Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW Ystafell B21 (Opsiwn i ymuno o bell, bydd angen cyfeiriad e-bost) Ddydd Llun Gorfennaf 1 2024 am 4yp.

Materion busnes y cyfarfod fydd:

  1. pleidleisio ar apwyntio Cyfarwyddwyr ar gyfer y flwyddyn i ddod
  2. ystyried a phleidleisio ar gymeradwyo cyfrifon y cwmni 2023-24
  3. ystyried a phleidleisio ar gymeradwyo’r adroddiad blynyddol
  4. ystyried a phleidleisio ar unrhyw fater arall a godir yn briodol

Mae hawl gan aelod o’r cwmni i apwyntio unigolyn arall fel ei ddirprwy i arfer unrhywrai o’i hawliau i fynychu a siarad a phleidleisio mewn cyfarfod y cwmni.

Cylchredir ffurflenni dirprwyo cyn y cyfarfod a fydd yn esbonio’r gweithdrefnau a’r agenda yn fwy manwl, ond dylech nodi gellir ond cofrestru eich bod yn mynychu’r cyfarfod os bydd y ffurflen hon wedi ei chwblhau a’i dychwelyd cyn y cyfarfod. Mae mynychu trwy ddirprwyaeth yn cyfrif fel mynychu ar gyfer dibenion ffurfiol.

Yn unol â’r canllawiau hyn, bydd dau gynrychiolydd Cymorth Cynllunio Cymru yn gweithredu fel dirprwyon ac yn bresennol yn gorfforol er mwyn sicrhau bod y cyfarfod â chworwm i gynnal busnes ffurfiol y cyfarfod.

Os hoffech chi ymuno fel arsylwr yn bersonol neu ar-lein e-bost at: [email protected]

Ar ran y Bwrdd

James Davies, Prif Weithredwr

5 Mehefin 2024

Keep in touch...

Join the Planning With Communities newsletter to keep informed of the latest events, guidance and news from Planning Aid Wales:

This will close in 0 seconds