Cymorth Cynllunio Cymru yn cefnogi Dialogau Ffydd a Chynllunio

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn falch i gefnogi prosiect ymchwil i gael gwell dealltwriaeth o’r materion mae grwpiau ffydd amrywiol yn eu hwynebu yn y broses gynllunio yng Nghymru.

Prosiect yw ‘Planning for religious diversity in Wales’ wedi ei chyflenwi gan Dr Richard Gale yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd , gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.  Ceir cefnogaeth hefyd gan Dr Andrew Rogers o Adran Dyniaethau ym Mhrifysgol Roehampton.

Bellach mae Cymru’n fwy amrywiol o ran crefydd, gyda grwpiau ffydd di-Gristnogol yn gyfrifol am 2.7% o boblogaeth Cymru yn ôl Cyfrifiad 2011, 1.5% yn fwy nag yn 2001. Mae’r newid hwn yn fwyaf amlwg yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd sydd, rhyngddynt, yn gyfrifol am 64% o’r twf cyfan yn y grwpiau crefyddol di-Gristnogol yng Nghymru rhwng 2001 a 2011.

Ymysg rhai grwpiau ffydd, mae’r twf hwn mewn amrywiaeth yn arwain at angen gynyddol am leoedd i ymgynnull ac addoli. Cyflwyna hyn heriau pwysig i gymunedau ffydd a chynllunwyr; p’un ai trwy newid defnydd eiddo neu adeiladu safleoedd newydd pwrpasol, mae datblygu lleoedd addoli yn dod â chymunedau ffydd mewn cysylltiad â’r system gynllunio. Bydd ymgysylltiad cynnar a mwy o ddealltwriaeth ar y ddwy ochr yn cynyddu ansawdd ac amseroldeb canlyniadau cynllunio.

Gellir gweld gwaith perthynol ar ffydd a chynllunio yn Lloegr, sydd hefyd wedi ei gynnal gan y tîm sy’n trefnu, yma. Oherwydd natur datganoledig cynllunio yng Nghymru, mae mwy o angen i archwilio sut mae’r materion hyn yn berthynol i’r cyd-destun Cymreig.

Trefnwyd tri digwyddiad – ‘Ffydd a Dialogau Cynllunio’ (‘Faith and Planning Dialogues’) – ar gyfer Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019 yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd. Amcan pob digwyddiad yw delio â sut gall cynllunwyr a grwpiau ffydd ymgysylltu â’i gilydd i sicrhau y cyflawnir anghenion y grwpiau ffydd tra’n cynnal cysondeb ac ansawdd wrth weithredu polisi ac egwyddorion cynllunio. Cefnogir paratoi, traddodi a hwyluso’r digwyddiadau hyn gan Cymorth Cynllunio Cymru ac RTPI Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe ar Ragfyr 10fed ble mynychodd cynrychiolwyr o wahanol grwpiau ffydd a rhyng-ffydd, yn ogystal â chynllunwyr o Ddinas a Sir Abertawe.  Cefnogwyd y digwyddiad gan Cymorth Cynllunio Cymru trwy draddodi cyflwyniad ar egwyddorion cynllunio mewn ymarfer, pwysigrwydd ymgysylltiad cynnar mewn datblygu polisi cynllunio a deall sut y penderfynnir ar geisiadau cynllunio.

‘Rydw i’n hapus iawn i weithio gyda Cymorth Cynllunio Cymru ac RTPI Cymru ar y materion pwysig hyn. Mae gan y ddau sefydliad hwn gyfoeth o arbenigedd yn cynorthwyo cymunedau yn eu rhyngweithredu â chynllunio, ac mae eu gallu i ddod â’u hagweddau i’r Dialogau hyn o fudd enfawr i bawb, yn cynnwys y grwpiau ffydd’.

Croesawyd y digwyddiad gan bawb a gyfranogodd, a daethant i’r casgliad ei bod yn hanfodol i barhau â’r dialog rhwng grwpiau ffydd a chynllunwyr.  Cyhoeddir canlyniadau manwl pan ddaw’r prosiect i ben.

Cynhelir digwyddiadau pellach yng Nghasnewydd ar Ionawr 14eg a Chaerdydd ar Ionawr 24ain. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dod â chynrychiolwyr grwpiau ffydd, grwpiau sector cymunedol a gwirfoddol, cynllunwyr awdurdodau lleol ac academyddion at ei gilydd; os oes diddordeb gennych mewn mynychu, cysylltwch â Dr Richard Gale ar 029 208 75275 / [email protected].

 

Share via
Share via
Send this to a friend