Manteision Cymunedol Cynllunio a Chytundebau Adran 106
Ar Fawrth 14eg 2019 teithiodd tîm Cymorth Cynllunio Cymru i Fae Colwyn i gynnal y pedwerydd Digwyddiad Rhwydweithio eleni. Ffocws y digwyddiad oedd Buddiannau Cymunedol Cynllunio a Chytundebau Adran 106. Mynychodd cyfranogwyr o nifer o wahanol Gynghorau Tref a Chymuned o ranbarth Gogledd Cymru ynghyd â Swyddogion Adnewyddu o’r Cyngor lleol.
Cyflwynodd y siaradwyr agweddau gwahanol a gynorthwyodd i gynyddu rhannu dealltwriaeth o’r materion o amgylch Adran 106. Rhoddodd Karen Probert a James Davies o Gymorth Cynllunio Cymru gyflwyniadau cychwynnol a gosod yr olygfa.
Cyflwynodd David Delaney, Ymgynghorydd y Gyfraith o Aaron and Partners y fframwaith gyfreithiol o amgylch Adran 106 a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, yn cynnwys gwybodaeth ar bwyntiau sbarduno ar gyfer cyfraniadau cynllunio, casglu rhwystriadau a’r cyfyngiadau amrywiol a ddaethpwyd ar eu traws.
Cyflwynodd Rhys Davies, Cyfarwyddwr, Cadnant Planning agwedd y datblygwr ac amlygodd y pwysigrwydd o Gynlluniau Cynefin yn y broses. Mae Cynlluniau Cynefin yn helpu datblygwyr i ennill mwy o sicrwydd yn y broses cynllunio. Awgrymwyd bod datblygwyr yn fwy tebygol o gael ymgom lwyddiannus â chymuned sydd wedi gweithio ar Gynllun Cynefin, oherwydd fe’u gwelir fel rhywrai rhagweithiol ac â dealltwriaeth dda o sut maent yn dymuno gweld cyfraniadau cynllunio yn cynorthwyo eu cymunedau.
Cyflwynodd Emma Price, Cyfarwyddwr o Studio Response ystod eang o astudiaethau achos o’i phrofiad â chelf gyhoeddus a sut gellir cyflawni creu cynefinoedd creadigol trwy gyfraniadau Adran 106. Esboniodd Emma y pwysigrwydd o gael ymrwymiad artistiaid yn y cam cyn-cais a thrafododd y ffordd mae artistiaid yn dadorchuddio hanes lle er mwyn datblygu gwaith celf sy’n benodol i’r safle ac yn ymatebol i’w gynefin.
Gorffennodd y digwyddiad gyda gweithdy ymarferol a rhyngweithiol ble bu’r cyfranogwyr yn ystyried ystod o wahanol fathau o brosiectau a ellid eu hargymell yn y cam cyn-cais ar gyfer cyfraniad Adran 106.