Allwch chi helpu i lunio dyfodol Penmaenmawr?
Mae Cynllun Lle Penmanemawr ‘Kickstarter’ yn rhoi cyfle i bobl leol gydweithio i ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio trefi lleol yn y dyfodol. Bydd y cynllun hwn yn cwmpasu ardaloedd Penmaenmawr, Dwygyfylchi, Capulelo a Phen Maenan.
Bydd mwy o gyfleoedd i chi gyfrannu at y Cynllun dros y misoedd nesaf. Mae’r arolwg hwn ar agor tan 30 Tachwedd 2022 ac rydym yn chwilio am eich barn ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y cynllun.
Os ydych yn llenwi copi papur o’r arolwg hwn, a fyddech cystal â’i ddychwelyd drwy’r post neu ei roi i:
- Swyddfa a Siambr y Dref, Canolfan Gymunedol Penmaenmawr Ffordd Conwy, Penmaenmawr, Conwy, LL34 6AB neu anfonwch e-bost at [email protected]
- Llyfrgell Penmaenmawr, Ffordd Bangor, Penmaenmawr LL34 6DA
- Tafarn y Gladstone, Heol Ysguborwen, Dwygyfylchi, Penmaenmawr LL34 6PS
I lawrlwytho fersiwn MS Word o’r arolwg, cliciwch yma >>
Dylai’r arolwg hwn gymryd 10 munud i’w gwblhau.
Cyflwynwyd yr holl syniadau isod gan gymuned.