Ymateb i Geisiadau Cynllunio a Gwneud y Mwyaf o’ch Dylanwad
-
Dyddiad
11th Medi 2019
-
Amser
5:30 yp - 8:30 yp
-
Abergele
Abergele
Sesiwn hyfforddi yn canolbwyntio ar geisiadau cynllunio. Cyflwyno offer a gwybodaeth er mwyn tywys cynghorau trwy sut i ymateb i geisiadau, a sicrhau bod eu sylwadau yn effeithiol a phriodol ar gyfer eu hardal.
Bydd y sesiwn hyfforddi hon yn para am 2.5 awr gyda saib o 15 munud. Mae’n hollol ryngweithiol gyda chyfleoedd i holi ac ateb trwy gydol yr amser.
Bydd y sesiwn hyfforddi yn darparu:
- Trosolwg byr ar gynllunio
- Mewnwelediad i’r broses cais cynllunio, penderfyniadau ar geisiadau ac adroddiad y swyddog
- Gwybodaeth ar bwysigrwydd gwneud cysylltiadau â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
- Golwg ar ystyriaethau perthnasol – beth ydyn nhw a pham maent o bwys?
- Canllawiau ar sut i wella eich ymatebion i geisiadau cynllunio