Cynhadledd i Randdalwyr

Parhau y sgwrs…

Hoffem wahodd cyfranogwyr sgwrs ROC i ymuno â threfi Llanfairfechan, Conwy, Penmaenmawr a Llanrwst ar gyfer ein cynhadledd i randdalwyr yn yr Hilton Garden Inn, Dolgarrog ar Dachwedd 10fed 2022, 9.45yb-4yp

Mae gwaith wedi cychwyn ar ‘Ysgogi Cynllun Cynefin’ (‘Place Plan Kickstarters’) yn y pedair tref hyn. Bydd y cynlluniau hyn, sydd wedi eu harwain gan y gymuned, yn benllanw ymgysylltiad cymunedol a rhanddalwyr ynghylch ystyried y ffactorau a fydd yn effeithio ar bob tref. Gwelir enghraifft o’r gweithgareddau sydd ynghlwm yn: www.placeplans.org.uk/llanfairfechan

Amcanion y gynhadledd fydd:

i). Caniatáu cyfranogwyr y 4 tref i ddod at ei gilydd i ddysgu am y cynlluniau a’r materion presennol a all effeithio arnyn nhw ac i nodi cyfleoedd i rannu adnoddau, cydweithio neu hyd yn oed brosiectau ar y cyd.

ii). Caniatáu cyfleoedd i randdalwyr allweddol i rannu eu cynlluniau presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ynghyd â’u blaenoriaethau ac i glywed rhywfaint o’r adborth o’r gwaith ymgysylltiad a wnaethpwyd hyd yn hyn.

iii). I annog rhanddalwyr a chynrychiolwyr cymunedau i nodi adrannau sy’n gorgyffwrdd, y posibilrwydd o ddyblygu a’r cyfleoedd i gydweithio i gyflawni amcanion ar y cyd.

iv). I hwyluso meddwl ymhellach ynghylch syniadau gymuned gyda mewnbwn gan y rhanddalwyr.

Byddem wrth ein bodd i groesawu cynrychiolwyr o unrhyw sefydliadau neu unigolion sydd â diddordeb mewn un neu’r pedair tref.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle am ddim yn y digwyddiad hwn ewch i: https://planningaidwales.org.uk/conference/?lang=cy

Hoffai Cymorth Cynllunio Cymru ddiolch i dîm ROC ac Eglwys Gŵyl Towyn am gefnogi’r gweithgaredd yma

I gadw lle am ddim yn y digwyddiad hwn, archebwch trwy Eventbrite trwy glicio yma.

Share via
Share via
Send this to a friend