Newyddion

Cymorth Cynllunio Cymru sy’n ennill sylw cenedlaethol

Cymorth Cynllunio Cymru ein canmol yn ein categori Tîm Cynllunio Mewnol y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cynllunio Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol 2020 a gynhaliwyd yn rhithwir ar You Tube ar Ebrill 30ain 2020.

Gwobrau Rhagoriaeth Cynllunio Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yw’r gwobrau mwyaf eu parch sydd wedi eu hen sefydlu yn niwydiant cynllunio. Maent wedi eu cynnal am dros 40 mlynedd, ac maent yn dathlu enghreifftiau rhagorol o gynllunio a’r cyfraniad mae cynllunwyr yn ei wneud i gymdeithas.

Read More

Diweddariad oddi wrth ein Prif Weithredwr

Rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r diweddaraf i chi ynghylch y newidiadau i weithgareddau Cymorth Cynllunio Cymru mewn ymateb i’r pandemig COVID-19:

  • Mae holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb CCC wedi eu canslo ac ni chynhelir unrhyw ddigwyddiadau eraill tan eich hysbysir.
  • Bydd y tîm staff yn gweithio o’u cartrefi a bydd y rhifau ffôn a’r cyfeiriadau ebost yn parhau yr un fath.
  • Bydd llinell gymorth CCC yn parhau i fod ar agor. (02920 625000)

Ar nodyn cadarnhaol, roedd, a mae, Cymorth Cynllunio Cymru ar fin lansio llwyfan hyfforddi ar-lein – ceir mwy o newyddion am hyn yn Ebrill.  Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu gweminarau (webinars) byw yn fuan.  Os oes gennych ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gweithgareddau hyn, gadewch i ni wybod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon  cofiwch y gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol trwy [email protected] neu ar 02920 625004

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a chadwch yn ddiogel.

Adeiladu Caerdydd a’r Fro sy’n Gyfeillgar i Blant

Yn ddiweddar cynhaliwyd symposiwm gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – “Adeiladu Caerdydd a’r Fro sy’n Gyfeillgar i Blant”.  Roedd y digwyddiad cyntaf llwyddiannus hwn wedi canolbwyntio ar asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd i sichrau y clywir lleisiau plant a phobl ifanc ac i gynyddu a hyrwyddo amgylcheddau sy’n gyfeillgar i blant yn y lleoedd a’r gwagleoedd maent yn byw ynddynt.

Read More