Angen Cynghorydd AD: Adolygiad o’r Llawlyfr Cyflogaeth
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn chwilio am gynghorydd AD profiadol neu arbenigwr cyfraith cyflogaeth i adolygu a diweddaru ei lawlyfr cyflogaeth a’i bolisïau staff.
Bydd y gwaith yn cynnwys adolygu’r llawlyfr cyfredol, gwirio aliniad â chontractau staff ac arferion presennol, diweddaru polisïau i adlewyrchu cyfraith cyflogaeth gyfredol, a pharatoi polisïau iechyd meddwl a menopos.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cynghorwyr sydd â phrofiad o gefnogi elusennau bach, sefydliadau trydydd sector neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Dylai cynghorwyr sydd â diddordeb ddarparu crynodeb byr o brofiad, y dull arfaethedig, yr amserlen a’r ffi. Dylid cyflwyno mynegiadau o ddiddordeb i [email protected] erbyn 31 Gorffennaf 2026.