News

Recruiting a new Engagement Officer (community and town councils)

Are you passionate about creating more sustainable communities?   Do you want to be working in a small and energetic third sector organisation working to make the planning process accessible and relevant to local communities?  If you share our enthusiasm for positive change in planning, we want to hear from you.Ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch creu cymunedau sy’n fwy cynaliadwy? Hoffech chi weithio mewn sefydliad bach ond egnïol yn y drydedd sector yn gweithio i wneud y broses gynllunio yn fwy hygyrch a pherthnasol i gymunedau lleol? Os ydych chi’n rhannu ein brwdfrydedd ni am newid cadarnhaol mewn cynllunio, rydym am glywed gennych.

Planning training for Community and Town Councils

‘Planning is the issue most widely discussed by community councils, being discussed at every meeting by 98% of councils surveyed.’  (Developing a Comprehensive Understanding of Community and Town Councils in Wales, Professor Michael Woods, 2013).

Planning training will help your council to make stronger responses to planning applications and help improve relationships with your planning authority.

For more information on our courses or to see our forward programme, click here‘Cynllunio yw’r pwnc a drafodir fwyaf gan gynghorau cymunedol, yn cael ei drafod ymhob cyfarfod gan y 98% o’r cynghorau a arolygwyd.’ (Developing a Comprehensive Understanding of Community and Town Councils in Wales, Yr Athro Michael Woods, 2013).

Bydd hyfforddiant cynllunio yn cynorthwyo’ch cyngor i ymateb yn gryfach i geisiadau cynllunio ac yn helpu i wella eich perthynas gyda’ch awdurdod cynllunio.

Am ragor o wybodaeth neu i weld ein rhaglen llawn, cliciwch yma

 

Annual General Meeting

Come join us at our AGM to take part in a volunteer forum and enjoy refreshments before hearing what our exciting speakers have to say on improving community engagement in planning.  Click here.

Welcome from the Chair

It is a really exciting time to be Chair of Planning Aid Wales. For many years we have worked to give people the information and support they need to understand and get involved with the planning process. Now, the Planning (Wales) Act 2015 and Positive Planning reform agenda are encouraging earlier and more effective engagement with communities, with particular reference to Place Plans, LDP review, mandatory pre-application community consultation for more significant planning applications and new Developments of National Significance. Our experience means we are well-placed to add real value to these reforms.  Read more…

Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn Gadeirydd Cymorth Cynllunio Cymru. Ers llawer o flynyddoedd rydym wedi gweithio i roi gwybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol i bobl er mwyn iddynt ddeall a chymryd rhan yn y broses gynllunio. Nawr, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac agenda ddiwygio Cynllunio Cadarnhaol yn annog ymgysylltiad cynharach a mwy effeithiol gyda chymunedau, yn enwedig ynghylch Cynlluniau Cynefin, adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl), ymgynghoriad gorfodol â’r gymuned cyn-cais ar gyfer ceisiadau cynllunio mwy arwyddocaol a Datblygiadau newydd o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae ein profiad ni’n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i ychwanegu gwerth go iawn i’r diwygiadau hyn.  Darllenwch mwy…

Empowering Local Communities in Pembrokeshire – Local Development Plan Review Workshops

Pembrokeshire Coast National Park Authority finds itself as one of the first local planning authorities in Wales at the early stages of reviewing its Local Development Plan (LDP) and is eager to get local communities involved straight away in the review process. To assist the National Park Authority with this task, Planning Aid Wales was commissioned to devise and deliver planning training workshops for community and town councillors. These were designed to help local communities understand the overall shape and purpose of the Review and to enable the National Park Authority to strengthen their planning relationships with Community and Town councils.  Read more… Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yw un o’r awdurdodau cynllunio lleol cyntaf yng Nghymru sydd yn y cyfnod cynnnar o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac mae’n awyddus bod cymunedau lleol yn cymryd rhan ar unwaith yn y broses adolygu. I gynorthwyo’r Awdurdod Parc Cenedlaethol gyda’r dasg hon, comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru i greu a thraddodi gweithdai hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr cymuned a thref. Cynlluniwyd y rhain i helpu cymunedau lleol i ddeall ffurf a diben cyfansawdd yr Adolygiad ac i alluogi’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i gryfhau’r berthynas gynllunio gyda chynghorau Cymuned a Thref.

Darllenwch mwy…

Community Planning: learning from recent practice

18th April 2016, 3pm to 6pm at the Chapter Arts Centre, Cardiff

Planning Aid Wales will be hosting this event to explore recent innovations and share best practice in the areas of community planning and engagement.  It will be an opportunity for planners and community representatives to come together to develop thinking and share knowledge.  It will cover Place Plans, pre-application consultation by developers and innovation in local community engagement by LPAs. 

There is a charge of £15 per planner and a reduced rate of £5 for community representatives. 

For more information or to book your place, please contact Angharad on [email protected]  

 Ebrill 18fed 2016, 3yp i 6yh yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd

Bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn cynnal y digwyddiad hwn i archwilio mentrau diweddar a rhannu ymarfer da ym meysydd cynllunio ac ymgysylltu cymunedol. Bydd yn gyfle i gynllunwyr a chynrychiolwyr y gymuned i ddod at ei gilydd i ddatblygu syniadau a rhannu gwybodaeth. Bydd yn delio â Chynlluniau Cynefin, ymgynghoriaeth cyn-cais gan ddatblygwyr a mentrau ymgysylltiad y gymuned leol gan Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Cost i gynllunwyr yw £15 y pen gyda chost gostyngol o £5 i gynrychiolwyr y gymuned.

I gael mwy o wybodaeth neu i archeb lle, cysylltwch ag Angharad ar [email protected]

Pembrokeshire Community and Town Council Workshops

Planning Aid Wales will be running a series of four free workshops in April, to help Community and Town Councils get involved in the review of the Local Development Plan for the Pembrokeshire Coast National Park.

The National Park Authority is in the very early stages of reviewing its Local Development Plan (LDP). The workshops will explain the review process and help community and town councillors understand the role they can play in the forward planning process.

The workshops will take place in Pembroke Dock, St David’s, Newport and Haverfordwest.

For more information, contact Julia Lester at [email protected] or by telephone on (029) 2062 5006.

Bydd Cymorth Cymllunio Cymru yn cynnal cyfres o bedwar gweithdy, am ddim, ym mis Ebrill i helpu Cynghorau Cymuned a Thref i gymryd rhan yn adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn y cyfnod cynnar o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Bydd y gweithdai yn esbonio’r broses adolygu ac yn helpu cynghorwyr cymuned a thref i ddeall y rôl y gallant ei chwarae yn y broses o gynllunio at y dyfodol.

Cynhelir y gweithdai yn Noc Penfro, Tyddewi, Trefdraeth a Hwlffordd.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Julia Lester yn [email protected] neu drwy ffonio (029) 2062 5006.