Cynllunio Seilwaith – Canllawiau i Gymunedau

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth grant ychwanegol i Cymorth Cynllunio Cymru er mwyn helpu cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â’r drefn gynllunio Seilwaith newydd a ddaeth i rym ar 15 Rhagfyr 2025.

Mae canllawiau a hyfforddiant ar Gynllunio Seilwaith ar gyfer Cymunedau ar gael isod.

Trosolwg

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn creu system genedlaethol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

Mae prosiectau ynni, trafnidiaeth, dŵr a gwastraff mawr sy’n cyrraedd trothwyon penodol yn cael eu dynodi’n Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol (PSA), ac, yn hytrach na mynd drwy’r broses gynllunio leol arferol, maen nhw’n cael eu harchwilio gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

Yn dilyn yr archwiliad, mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, ac os byddant yn cael eu cymeradwyo, rhoddir caniatâd drwy Orchymyn Cydsyniad Seilwaith (ICO). Mae’r broses wedi’i chynllunio i fod yn strwythuredig ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chyfleoedd i gymunedau ymgysylltu ar gamau allweddol.

Gallwch weld canllawiau Llywodraeth Cymru ar Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol yma.

Sesiwn Bwrdd Crwn

Ar 12 Chwefror 2026, cynhaliodd Cymorth Cynllunio Cymru drafodaeth bwrdd crwn ar-lein o’r enw Cynllunio Seilwaith: Safbwyntiau Cymunedol. Bu cynulleidfa gymysg, gan gynnwys cynghorwyr sir, cynrychiolwyr cynghorau tref a chymuned, a rhanddeiliaid o’r sector preifat a sefydliadau anllywodraethol, yn trafod eu profiadau o ddatblygiadau seilwaith.

Mae canfyddiadau’r trafodaethau ar gael yn adroddiad y digwyddiad uchod (cliciwch ar y ddelwedd i lawrlwytho’r adroddiad).

Cwrs Hyfforddi

Ym mis Mawrth 2026, cynhaliodd Cymorth Cynllunio Cymru ddau gwrs hyfforddi manwl ar Gynllunio Seilwaith ar gyfer Cymunedau. Roedd y sesiynau’n rhoi sylw i brif gamau’r broses, gan gynnwys ymgynghori cyn ymgeisio, archwiliad a gwneud penderfyniadau, ynghyd â rolau gwahanol gyrff megis PEDW a Gweinidogion Cymru. Rhoddwyd pwyslais arbennig ar sut y gall cynghorau tref a chymuned ddeall dogfennau technegol ac ymateb yn ystyrlon i gynigion seilwaith mawr. I lawrlwytho’r cwrs, cliciwch ar y ddelwedd uchod.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol ynghylch sut mae cynllunio seilwaith yn gweithio neu awgrymiadau ar gyfer ein canllawiau newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – anfonwch neges atom isod.

Ymgynghori ac Ymgysylltu mewn Cynllunio Seilwaith

Cyflwynir y cais llawn i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, yn cynnwys yr holl ddogfennau ategol gofynnol megis gwybodaeth amgylcheddol ac Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, sy’n dangos sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio a sut mae’r adborth wedi dylanwadu ar y cynnig.

Hysbysiad Cyn Ymgeisio

Mae’r cam cychwynnol hwn yn rhoi arwydd ffurfiol bod datblygwr yn bwriadu cyflwyno cynnig seilwaith mawr, gan roi rhybudd cynnar i randdeiliaid a gosod y sylfaen ar gyfer ymgysylltu cyn i gynlluniau manwl gael eu cwblhau.

Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio

Mae’n ofynnol i’r datblygwr ymgynghori â chymunedau, awdurdodau lleol ac ymgyngoreion statudol ar eu cynigion newydd, gan roi cyfle i ddylanwadu ar y cynllun ar gam ffurfiannol cyn ei gyflwyno. Rhaid i hyn bara am gyfnod o 42 diwrnod o leiaf.

Cyflwyno’r Cais

Cyflwynir y cais llawn i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, yn cynnwys yr holl ddogfennau ategol gofynnol megis gwybodaeth amgylcheddol ac Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, sy’n dangos sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio a sut y mae’r adborth wedi dylanwadu ar y cynnig.

Ymgynghori a Chais am Adroddiad Effaith Leol

Unwaith y bydd y cais wedi’i dderbyn, cynhelir ymgynghoriad ffurfiol a chyhoeddir hysbysiad Adran 34 sy’n gwahodd sylwadau. Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gyflwyno Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR), sy’n nodi effeithiau tebygol y cynnig ar yr ardal, a gallai cynghorau tref a chymuned hefyd gyflwyno LIR yn ôl eu disgresiwn.

Materion Pellach i’w Hystyried gan yr Arolygydd

Mae’r Arolygydd a benodwyd yn adolygu’r cais a’r ymatebion i’r ymgynghoriad, gan nodi unrhyw faterion ychwanegol sydd angen eglurhad neu archwiliad pellach.

Archwiliad

Cynhelir proses archwilio strwythuredig, dan arweiniad Arolygydd, lle mae tystiolaeth yn cael ei hystyried drwy sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiadau llawr agored, neu ymchwiliad ffurfiol.

Penderfyniad gan Weinidogion Cymru

Yn dilyn yr archwiliad ac argymhellion yr Arolygydd, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd. Rhaid gwneud y penderfyniad o fewn 52 wythnos i ddyddiad cyflwyno’r cais.

Geirfa Cynllunio Seilwaith

Cais (Caniatâd Seilwaith)
Cais ffurfiol am ganiatâd i gyflawni Prosiect Seilwaith Arwyddocaol. Mae’n cynnwys cynlluniau, gwybodaeth amgylcheddol, adroddiadau ymgynghori a drafft o Orchymyn Caniatâd Seilwaith.

Caffael Gorfodol
Y broses gyfreithiol sy’n caniatáu i dir gael ei gaffael heb gytundeb y perchennog, pan fo hynny’n angenrheidiol ar gyfer prosiect ac wedi’i gyfiawnhau’n briodol. Mae’n cael ei awdurdodi fel rhan o Orchymyn Caniatâd Seilwaith.

Ymgynghori
Gofyn i bobl neu sefydliadau beth yw eu barn am rywbeth. Fel arfer gofynnir am sylwadau ar fater penodol (megis cais cynllunio), neu ar set o faterion, neu ar ddogfen ddrafft (megis cyfranogiad y cyhoedd wrth baratoi cynllun). Gall ymgynghori fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol.

Adroddiad Ymgynghori
Dogfen sy’n cael ei chyflwyno gyda chais sy’n esbonio pwy yr ymgynghorwyd â nhw, pa faterion a godwyd a sut y newidiwyd y cynnig mewn ymateb.

Effaith Gronnol
Effaith gyfunol prosiect pan fydd yn cael ei ychwanegu at ddatblygiadau eraill sydd eisoes yn bodoli neu sydd wedi’u cynllunio yn yr ardal.

Datblygiad
Yn cael ei ddiffinio mewn cynllunio fel ‘cyflawni gwaith adeiladu, peirianneg, mwyngloddio neu weithrediadau eraill, yn, ar, dros neu o dan dir, neu wneud unrhyw newid sylweddol i ddefnydd unrhyw adeilad neu dir arall.’

Cynllun Datblygu
Y ddogfen sy’n nodi polisïau cynllunio a chynigion ar gyfer datblygiad yn y dyfodol mewn ardal. Dyma’r ‘ystyriaeth berthnasol sylfaenol’ neu’r ffactor pwysicaf wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)
Proses a ddefnyddir i nodi ac asesu effeithiau amgylcheddol prosiect cyn gwneud penderfyniad.

Datganiad Amgylcheddol
Adroddiad manwl a gyflwynir gyda chais sy’n nodi canfyddiadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, gan gynnwys effeithiau a mesurau lliniaru.

Archwiliad
Y cam ffurfiol lle mae’r cais yn cael ei brofi gan arolygydd annibynnol. Mae tystiolaeth yn cael ei hadolygu, cwestiynau’n cael eu gofyn, a sylwadau ysgrifenedig neu lafar yn cael eu hystyried.

Amserlen yr Archwiliad
Rhaglen benodol ar ddechrau’r archwiliad sy’n diffinio terfynau amser ar gyfer sylwadau, gwrandawiadau a phenderfyniadau.

Uchel Lys (Adolygiad Barnwrol)
Y broses lle gellir herio penderfyniad ar sail gyfreithiol. Mae’n ystyried a wnaed y penderfyniad yn gywir, nid p’un a oedd y penderfyniad yn gywir neu’n anghywir.

Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith (OCS)
Y caniatâd cyfreithiol a roddir ar gyfer Prosiect Seilwaith Arwyddocaol. Gall gynnwys caniatâd cynllunio, pwerau caffael gorfodol a chaniatadau eraill angenrheidiol mewn un penderfyniad.

Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
Y ddeddf a gyflwynodd system newydd ar gyfer penderfynu ar brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ar lefel genedlaethol.

Parti â Buddiant
Unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd wedi gwneud sylwadau ffurfiol ac sy’n rhan o’r broses archwilio.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Y cynllun datblygu, neu’r ddogfen bolisi cynllunio ar gyfer ardal awdurdod lleol, sy’n nodi ble a sut y dylai datblygiad ddigwydd dros gyfnod o 15 mlynedd.

Adroddiad o’r Effaith Leol (LIR)
Adroddiad sy’n cael ei baratoi gan awdurdod lleol (ac yn ddewisol gan gynghorau cymuned) sy’n disgrifio sut y byddai prosiect arfaethedig yn effeithio ar yr ardal leol, gan gynnwys cyd-destun polisi a thystiolaeth leol.

Ystyriaeth Berthnasol
Os yw rhywbeth yn berthnasol, mae’n ymwneud â chynllunio ac mae’n rhaid ei ystyried cyn gwneud penderfyniad. Mae p’un a yw rhywbeth yn berthnasol yn aml yn dibynnu ar yr achos unigol.

Lliniaru
Mesurau sydd wedi’u cynnwys o fewn cynnig i leihau neu reoli effeithiau negyddol, megis effeithiau amgylcheddol, gweledol neu draffig.

Polisi Cenedlaethol (Cymru’r Dyfodol / Polisi Cynllunio Cymru)
Polisi cynllunio a osodwyd ar lefel genedlaethol sy’n llywio penderfyniadau ar seilwaith a datblygiad ledled Cymru.

Gwrandawiad Llawr Agored
Sesiwn strwythuredig ond anffurfiol yn ystod yr archwiliad lle gall aelodau’r cyhoedd siarad yn uniongyrchol â’r arolygydd am y cynnig.

PEDW (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru)
Y sefydliad sy’n gyfrifol am reoli archwiliad ceisiadau seilwaith a phenodi arolygwyr.

Ymgynghori Cyn Ymgeisio
Cam gofynnol cyn cyflwyno cais, lle mae’n rhaid i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau, awdurdodau lleol ac ymgyngoreion statudol ar eu cynigion. Ar gyfer SIP, mae’n rhaid i’r cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio bara o leiaf 42 diwrnod.

Sylwadau
Sylwadau a gyflwynir i awdurdod cynllunio lleol. Gallant fod naill ai’n cefnogi rhywbeth neu’n gwrthwynebu rhywbeth.

Hysbysiad Adran 34
Hysbysiad ffurfiol a gyhoeddir ar ôl i gais gael ei dderbyn, sy’n gwahodd sylwadau ac yn gosod terfynau amser ar gyfer cymryd rhan yn yr archwiliad.

Prosiect Seilwaith Arwyddocaol (SIP)
Math o ddatblygiad sy’n cael ei ddiffinio mewn cyfraith sy’n cael ei ystyried yn ddigon arwyddocaol i ofyn am broses gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol.

Mae SIP fel arfer yn cynnwys prosiectau mawr ym maes ynni, trafnidiaeth, dŵr a gwastraff. Bydd prosiect yn cael ei ddynodi yn SIP os yw:
• yn cyrraedd trothwyon penodol (megis capasiti, hyd neu gyfaint); neu
• yn cael cyfarwyddyd i’w drin fel SIP gan Weinidogion Cymru.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:
• Ynni - gorsafoedd cynhyrchu trydan rhwng 50–350 megawat (MW), gan gynnwys ffermydd gwynt ar y tir o 50 MW neu fwy
• Llinellau trydan uwchben - 132 cilofolt (kV) ac o leiaf 2 km o hyd
• Trafnidiaeth - priffyrdd newydd o 1 km neu fwy (lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priffyrdd), neu drac rheilffordd newydd o 2 km neu fwy
• Dŵr - cronfeydd dŵr o 10 miliwn metr ciwbig, neu gynlluniau trosglwyddo dŵr o 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn
• Dŵr gwastraff - gweithfeydd trin sy’n gwasanaethu 500,000 o bobl neu fwy, neu’n storio 350,000 metr ciwbig
• Gwastraff - safleoedd tirlenwi neu waredu sy’n trin 100,000 tunnell y flwyddyn, neu gyfleusterau gwastraff peryglus sy’n trin 30,000 tunnell y flwyddyn

Yn hytrach na chael eu penderfynu gan Awdurdod Cynllunio Lleol, mae SIPs yn cael eu:
• harchwilio gan PEDW
• penderfynu gan Weinidogion Cymru

Mae’r broses yn cynnwys ymgynghori ffurfiol, archwiliad a chyflwyno tystiolaeth gan awdurdodau lleol, cymunedau ac ymgynghoreion statudol.

Ymgynghorai Statudol
Sefydliad y mae’n rhaid ymgynghori ag ef yn ffurfiol oherwydd ei gyfrifoldebau (er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru).

Trothwy
Y maint neu’r raddfa lle mae prosiect yn cael ei ddynodi yn Brosiect Seilwaith Arwyddocaol ac yn gorfod dilyn y broses genedlaethol.

Dilysu
Y cam lle mae cais yn cael ei wirio i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl ddogfennau gofynnol cyn iddo gael ei dderbyn.

Gweinidogion Cymru
Y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar Brosiectau Seilwaith Arwyddocaol yng Nghymru, yn dilyn archwiliad o’r cais.