Cicdanio Cynllun Cynefin Conwy
Hwyluso cynllunio dan arweiniad y gymuned yng Nghonwy
Cefndir
Cafodd Cymorth Cynllunio Cymru ei gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i helpu pedwar Cyngor Tref i archwilio datblygu Cynlluniau Cymuned/ cymunedol yn yr ardal. Roedd y prosiect yn cynnwys ymgysylltiad eang gyda’r gymuned a rhanddeiliaid ym mhob un o’r pedair tref ac arweiniodd at gynhyrchu pedwar cynllun ‘Cicdanio Cynllun Cynefin’ y gall y cymunedau eu defnyddio fel sylfaen ar gyfer datblygu pellach ar y cynlluniau cynefin yn y dyfodol. Mae’r prosiect hefyd wedi cynnwys creu 6 llyfryn canllaw i helpu’r cymunedau i gymryd y camau nesaf.
Ble oedd y gwerth?
Helpodd y prosiect i feithrin gallu pedwar ‘gweithgor’ cymunedol i sefydlu a datblygu eu cynlluniau eu hunain dan arweiniad y gymuned. Cafodd 23 digwyddiad ymgysylltu a phedair gwefan benodol eu cyflwyno yn Llanfairfechan, Penmaenmawr, Llanrwst a Chonwy gan gyrraedd 1,055 o bobl, cynhyrchu 13,797 pleidlais a 3,537 sylw ar flaenoriaethau cymunedol.
Mae’r cynlluniau gafodd eu cynhyrchu yn cynnwys crynodebau o flaenoriaethau cymunedol a chynlluniau gweithredu y gall y grwpiau cymunedol eu rhoi ar waith. Bydd y 6 dogfen ganllaw hefyd yn cefnogi gweithgareddau cynllunio cymunedol yn y Sir am flynyddoedd i ddod.
Am ragor o wybodaeth: