Swydd Wag: Prif Weithredwr

Cyflog: £48,000 – £55,000 y flwyddyn
Oriau: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos. Ystyrir ceisiadau i rannu swydd.
Lleoliad: Gweithio o bell yn gyfan gwbl, gyda theithio achlysurol ledled Cymru ac i fannau eraill
Dyddiad cau: Dydd Llun 30 Tachwedd
Cyfweliadau: Dydd Llun 14 Rhagfyr 2026, Prifysgol Caerdydd

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn chwilio am Brif Weithredwr newydd i arwain y sefydliad drwy’i bennod nesaf.

Rydym ni’n elusen gynllunio genedlaethol, annibynnol ac arbenigol sy’n gweithio gyda chymunedau, y proffesiwn cynllunio, y llywodraeth, awdurdodau lleol a’r sector datblygu ehangach. Rydym ni’n gadarnhaol am gynllunio a’i botensial i greu lleoedd gwell, tra’n hyrwyddo cyfranogiad cymunedol ystyrlon.

Mae’r rôl yn cyfuno arweinyddiaeth sefydliadol a datblygu busnes, arbenigedd cynllunio ac ymgysylltu â’r gymuned, ac arloesedd digidol.

Bydd y Prif Weithredwr yn arwain staff a gweithrediadau Cymorth Cynllunio Cymru, yn datblygu busnes a phartneriaethau newydd, yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol ym maes cynllunio, Cynlluniau Bro ac ymgysylltu, yn cynrychioli’r sefydliad ar lefel genedlaethol, ac yn goruchwylio ein gwasanaethau digidol a’n presenoldeb ar-lein.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sydd â sgiliau cryf o ran rheoli sefydliadol ac ariannol a meithrin perthnasoedd, dealltwriaeth dda o gynllunio yng Nghymru, a’r hyder i weithio gyda chymunedau, y llywodraeth a’r sector ehangach.

Byddai profiad o arwain elusen neu sefydliad yn y trydydd sector, Cynlluniau Bro ac ymgysylltu digidol, sgiliau Cymraeg ac aelodaeth o’r RTPI neu gorff proffesiynol perthnasol arall yn fanteisiol.

Am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person llawn, a manylion am sut i wneud cais, gweler isod:

Disgrifiad Swydd y Prif Weithredwr a Manyleb Person

Ffurflen Gais y Prif Weithredwr

Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal

I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Cynllunio Cymru, gweler:planningaidwales.org.uk/about-us/

Mae ceisiadau’n cau ddydd Llun 30 Tachwedd 2026.