Ail Gartrefi a Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr – Materion Cynllunio yng Nghymru

This event has ended

Amcangyfrifir bod o leiaf dros 24,000 o ail gartrefi yng Nghymru. Mae mater ail gartrefi a gosodiadau gwyliau tymor byr wedi dod yn fater dadleuol iawn mewn llawer o gymunedau Cymreig. Codwyd pryderon ynghylch eu heffaith ar brisiau tai, darpariaeth cartrefi i bobl leol, effeithiau economaidd a hefyd yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

Tra bo gan Gynghorion bwerau disgresiwn i godi premiwm treth cyngor ar eiddo sy’n wag am amser maith ac ar ail gartrefi, mae barn gynyddol y dylid gwneud mwy. Mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad sy’n edrych ar y mater hwn. Mae un yn ymwneud â newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ynghylch ail gartrefi a gosodiadau gwyliau tymor byr a’r ail yn ymwneud â’r Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg.

Bydd y gweminar yn darparu trosolwg o’r materion sy’n berthynol i ail gartrefi a gosodiadau gwyliau tymor byr a’u heffaith ar gymunedau lleol. Byddwn yn ystyried sut mae cymunedau lleol wedi ystyried a a cheisio delio â’r mater. Bydd y siaradwyr yn darparu mewnwelediad i’r mater o nifer o wahanol agweddau. Yn olaf, rhoddir esboniad o ymgynghoriadau cyfredol Llywodraeth Cymru. Y bwriad yw bod y digwyddiad a’r trafodaethau yn cynorthwyo’r cyfranogwyr wrth baratoi unrhyw ymateb i’r ymgynghoriadau hyn.

Rydym yn ffodus i groesawu nifer o siaradwyr gwybodus o awdurdodau lleol a sefydliadau cenedlaethol sydd â phrofiad arwyddocaol a dealltwriaeth o’r materion hyn a sut gellir delio â hwy ledled Cymru.

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>