Gwerth Cynlluniau Cynefin

This event has ended

Mae Cynlluniau Cynefin yn gyfle arloesol i gymunedau gydweithredu ag awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni uchelgeisiau lleol. Trwy edrych ar yr offer, y technegau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Gynlluniau Cynefin bydd y digwyddiad hwn yn gofyn ‘beth yw gwir werth Cynlluniau Cynefin yng Nghymru?’

Bydd y digwyddiad yn archwilio astudiaethau achos Cynlluniau Cynefin sydd eisoes wedi eu mabwysiadu er mwyn ymchwilio i’r buddion maent wedi ei roi i’r cymunedau hynny a hefyd i gyflwyno’r camau allweddol sy’n ymwneud â pharatoi cynllun yn eich cymuned.

Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer cynllunwyr a chymunedau sy’n ystyried paratoi Cynllun Cynefin a bydd yn archwilio’r ffactorau allweddol sy’n golygu bydd Cynllun Cynefin yn llwyddiant.

Archebwch nawr ar Eventbrite >>

Keep in touch...

Join the Planning With Communities newsletter to keep informed of the latest events, guidance and news from Planning Aid Wales:

This will close in 0 seconds