Deall Rhwymedigaethau Cynllunio Adran 106
-
Dyddiad
12th Chwefror 2025
-
Amser
6:00 yp - 8:00 yp
Gall Rhwymedigaethau Cynllunio fod ar sawl ffurf ac yn gyffredinol fe’u hystyrir fel cytundeb Adran 106. Yn gyffredinol, maent yn gytundeb rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol ynghylch mesurau a all gynorthwyo lleihau effaith datblygiadau newydd ar gymunedau a seilwaith. Fodd bynnag, nodir yn aml nad yw cymunedau lleol yn teimlo’u bod yn deal sut mae’r fath gytundebau’n gweithio mewn ymarfer. Mae’r digwyddiad hyfforddi hwn yn darparu sesiwn ryngweithiol i archwilio:
- Beth yw Rhwymedigaethau Cynllunio?
- Sut maent yn cael eu trafod?
- Disgrifio sut mae datblygwyr yn delio ag arian datblygu a hyfywedd a chaniatáu cymunedau lleol a chynrychiolwyr i ddeall goblygiadau ariannol unrhyw ddatblygiad.
- A ellir eu haddasu neu eu dileu?
- Gorfodaeth Rhwymedigaethau Cynllunio
- Esboniad byr o ardoll seilwaith cymunedol.
- Sut gall cymunedau ymgysylltu â’r broses hon a beth yw’r buddion i gymunedau lleol?