Datrys Problemau ynghylch Cynllunio Ar-lein
-
Dyddiad
22nd Mawrth 2021
-
Amser
6:00 yp - 8:00 yp
Y dyddiau hyn mae popeth ar-lein.
Mae Cynllunio wedi bod yn symud tuag at fod ar-lein ers mwy na deng mlynedd ac mae COVID-19 wedi achosi hyn i ddigwydd yn fwy cyflym.
Y broblem yw, gan fod cymaint o wybodaeth am gynllunio o gwmpas, ble ydych chi’n dechrau?
Bydd y cwrs rhyngweithiol newydd hwn yn eich tywys trwy amrywiaeth o broblemau cynllunio a sut y gallwch eu datrys trwy ddefnyddio’r rhyngrwyd:
- Sut allwn ni ddarganfod mwy am geisiadau cynllunio a pholisi cynllunio?
- Sut allwn ni ymateb iddyn nhw?
- O ble gawn ni ganllawiau ar gwestiynau penodol ar gynllunio?
- Sut allwn ni ymgysylltu â’n cymunedau ar-lein?
Yn y cwrs byddwn yn archwilio ac arddangos offer ar-lein defnyddiol iawn y gallwch eu defnyddio i ateb yr holl gwestiynau hyn, yn cynnwys:
- Gwefannau Llywodraeth Cymru a Chynghorau Sir.
- Gwefan Cymorth Cynllunio Cymru a phorth hyfforddi ar-lein, y Porth Cynllunio a gwefan Cynllunio Cynefin.
- Adnoddau ar-lein megis Landmap, mapiau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, data mapiau hanesyddol CADW y gallwch eu defnyddio wrth ymateb i geisiadau cynllunio.
- Offer ymgysylltu â chymunedau – trosolwg o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar-lein eraill sy’n galluogi cyfranogaeth y gymuned.
- Trosolwg o sut mae’r Arolygiaeth gynllunio yn symud ar-lein i gynnal gwrandawiadau.