Cynllunio eich Cynefinoedd

This event has ended

Hyfforddiant ar bolisi cynllunio a Chynlluniau Cynefin ar gyfer cymunedau

Penderfynnir ar bob cais cynllunio yng Nghymru trwy gyflawni polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Ond beth yw’r polisïau hyn a sut maent yn cael eu creu?

Gall polisïau cynllunio da wella’r mannau ble rydym yn byw a diogelu’r pethau sy’n bwysig i ni. Mae cymunedau lleol yn arbenigwyr ar ble maent yn byw a thrwy gymryd rhan mewn creu polisïau cynllunio gallant helpu i wneud eu cynefin yn well i bawb.

Bydd y cyrsiau hyn, am ddim, byddant ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref a grwpiau cymunedol a byddant yn delio â’r gwahanol fathau o bolisi cynllunio yng Nghymru, sut mae’r polisïau hyn yn cael eu creu a sut gallwch chi gymryd rhan yng nghynllunio eich cynefinoedd.

Yn fanwl, bydd y cyrsiau’n archwilio:

  • Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, cynllun newydd 20 mlynedd ar ddefnydd tir, ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei baratoi gan Lywodraeth Cymru.
  • Polisïau cynllunio cenedlaethol wedi eu gosod yn Polisi Cynllunio Cymru gan Lywodraeth Cymru a sut gallant effeithio ar benderfyniadau lleol.
  • Sut mae Cynlluniau Datblygu Lleol, a baratoir gan awdurdodau cynllunio lleol, yn hysbysu penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a sut gall pobl gymryd rhan mewn llunio’r cynlluniau hyn.
  • Sut gall cymunedau weithio gydag awdurdodau lleol i baratoi eu Cynllun Cynefin eu hun.

Traddodir y cyrsiau gan Cymorth Cynllunio Cymru, yr elusen sy’n cefnogi ymgysylltiad â chynllunio. Cyflwynir 10 cwrs am ddim ledled Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Archebwch nawr ar Eventbrite >>