Datblygiad Oed-gyfeillgar

This event has ended

**Bydd y digwyddiad yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu ar y pryd a bydd yn cael ei gyflwyno ar Teams.

Mae “Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio” Llywodraeth Cymru yn nodi “Yng Nghymru, mae’r ddemograffeg ganolog yn rhagfynegi y bydd 1 o bob 4 o’r boblogaeth dros 65 oed ymhen 20 mlynedd. Rhagfynegir y bydd y boblogaeth sydd dros 75 oed yng Nghymru hefyd yn cynyddu o 9.3% o’r boblogaeth yn 2018 i 13.7% yn 2038 (Swyddfa Ystadegau Gwladol 2019). Mae’n nodi ymhellach “bu rhai newidiadau cymdeithasol amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae’r amcangyfrif o nifer y bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y degawd diwethaf. Heddiw, mae pobl 65 oed a hŷn yn cyfrif am 45% o aelwydydd person sengl”.

Mae’r dull Oedran-gyfeillgar, a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, yn galw ar randdeiliaid ac ymarferwyr i ailffocysu eu syniadau ynghylch heriau a chyfleoedd poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’r dull hwn yn gofyn am ddull cydweithredol gan yr holl gyfranogwyr.

Felly, mae’n bwysig bod anghenion pobl hŷn yn cael eu hystyried o fewn y broses ddatblygu mewn perthynas ag adeiladau a gofodau.

Bydd y digwyddiad hwn yn ystyried sut mae datblygiadau oedran-gyfeillgar yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd a a sut y gallent edrych yn y dyfodol gan gynnwys darparu tai, cyfleoedd ehangach mewn perthynas â lleoedd a gofod a sut y gall poblogaeth sy’n heneiddio gyfrannu’n llawn yn y broses gynllunio a datblygu.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

• Cynghorau Cymuned a Thref

• Awdurdodau cynllunio lleol, Swyddogion a Chynghorwyr

• Datblygwyr / Asiantaethau

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>