Allwch chi helpu i lunio dyfodol Ardal Bae Colwyn?
Yn ddiweddar cyflwynwyd Cynlluniau Cynefin gan Lywodraeth Cymru fel dull o annog mwy o ymgysylltiad gan gymunedau wrth wneud penderfyniadau cynllunio trefi lleol. Mae Cynllun Cynefin Colwyn yn rhoi cyfle i bobl leol weithio gyda’i gilydd i ddylanwadu ar benderfyniadau cynllunio tref yn y dyfodol.
Rydym wedi diffinio ardal Bae Colwyn fel Llandrillo-yn-Rhos, Bae Colwyn, Hen Golwyn a Bryn-y-Maen.
Rydym megis dechrau ar hyn a bydd mwy o gyfleoedd i chi gyfrannu at Gynllun Cynefin /colwyn dros y misoedd i ddod. Bydd yr arolwg hwn ar agor tan Gorffennaf 14eg 2022 ac rydym yn gofyn am eich safbwyntiau ar yr hyn a ellid ei gynnwys yn y cynllun.
Dylai’r arolwg gymryd 5 munud i’w gwblhau.
Os ydych yn llenwi copi papur o’r arolwg byddwch cystal â’i anfon yn ôl trwy’r post neu ei gymryd i:
Cyngor Tref Ardal Bae Colwyn, Neuadd y Dref, Rhiw Road, Bae Colwyn, Ll29 7TE neu gallwch ei anfon ar e-bost i [email protected]
I lawrlwytho fersiwn PDF o’r arolwg, cliciwch yma>>
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Cynefin Colwyn ewch i www.colwynplaceplan.com