Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen dros Gymru gyfan sy’n gweithio tuag at ymrwymiad cymunedol effeithlon â chynllunio. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio, cymunedau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn creu system gynllunio sy’n fwy hygyrch a chyfranogol. Cawn ein cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru.
Mae ein gwefan, ein Llinell Gymorth ar y ffôn, cyhoeddiadau canllaw a digwyddiadau hyfforddi yn rhoi gwybodaeth a chyngor sydd ei angen ar filoedd o bobl bob blwyddyn ynghylch ymgysylltu â chynllunio. Mae ein staff bach yn gweithio gyda rhwydwaith o bron i gant o wirfoddolwyr ymroddedig, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn gynllunwyr siartredig, i gyflenwi ein gwasanaethau. Llynedd, cyfranodd y gwirfoddolwyr dros 1,000 o oriau i gynyddu ymgysylltiad cymunedol â’r system gynllunio.
Fel cyfranddaliwr cynllunio diduedd ac annibynnol yng Nghymru, rydym yn gweithio i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd, cynyddu ymgysylltiad cymunedol a rheoli disgwyliadau, a thrwy hyn rydym yn cefnogi traddodi’r system gynllunio.
Gweler isod i gael gwybodaeth mwy penodol ar rai o’n llwyddiannau diweddar.
Ymgysylltiad cymunedol â chreu cynlluniau yn Sir Y Fflint
Gofynnwyd i ni gan Gyngor Sirol Sir Y Fflint i helpu adeiladu capasiti ymysg cymunedau lleol yn y Sir i ymgysylltu â gwneud polisïau strategol a darparu canllawiau pwrpasol a ddyluniwyd i helpu cynghorwyr cymuned a thref a’r cyhoedd i ddeall pwysigrwydd a pherthansedd y broses Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl).
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch y canllaw hawdd ei ddarllen, trwy glicio yma.
Lawrlwythwch y pamffledyn cryno trwy glicio yma.
Hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref
Mae Cynghorau Cymuned a Thref yn chwarae rhan hanfodol yn y system gynllunio Gymreig. Maent yn rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio ar ran cymunedau lleol ac maent yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio i helpu paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.
Rydym wedi gweithio mewn ffyrdd arloesol i dreialu ystod o ddulliau, gyda’r diben o wella ymgysylltiad cymunedol â chynllunio.
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch yr astudiaeth achos trwy glicio yma.
Ymgysylltiad cymunedol ym Mannau Brycheiniog
Comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gynnar yn 2008 i helpu ymgysylltu tua hanner cant o gynghorau cymuned a thref yng nghamau cynnar paratoi Cynllun Datblygu Lleol.
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch yr astudiaeth achos trwy glicio yma.
Canllaw Datganiad Mynediad
Mae datblygiad sydd wedi ei ddylunio’n dda yn galluogi mynediad cynhwysol i mewn ac o amgylch lleoedd ac adeiladau fel y gall pawb eu defnyddio. Ers canol 2009 mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio gael Datganiad Dyluniad a Mynediad. Mae’r rhain yn esbonio sut mae’r broses ddylunio wedi esblygu, yn cynnwys sut mae materion ynghylch mynediad wedi eu hystyried a’u datrys.
Sicrhawyd cyllid i Cymorth Cynllunio Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2009 i baratoi cyhoeddiad ar ganllawiau mynediad sy’n hyrwyddo mynediad cynhwysol mewn cynigion datblygiadau newydd.
I gael mwy o wybodaeth, lawrlwythwch yr astudiaeth achos trwy glicio yma.