Ymgysylltu â’r Gymuned: 20 mlynedd yn y Talcenni Glo

Ar ôl bron i ugain mlynedd yn ceisio cael pobl i gymryd rhan mewn cynllunio — ac ar fy niwrnod llawn olaf gyda Cymorth Cynllunio Cymru — byddaf yn rhoi fersiwn estynedig o fy nghyflwyniad diweddar yng nghynhadledd RTPI Cymru: Ymgysylltu â’r Gymuned: 20 mlynedd yn y Talcenni Glo.

Nid bwriad hon yw bod yn sesiwn hyfforddi arall ar dechnegau ymgynghori. Yn hytrach, bydd yn olwg bersonol, ac weithiau braidd yn amharchus, yn ôl ar yr hyn mae dau ddegawd o ymgysylltu â’r gymuned wedi’i ddysgu i mi: pwy sy’n cymryd rhan mewn gwirionedd, pwy sy’n cael eu methu, pam mae pawb yn credu mai rhywun arall sydd ar fai, pam y gall cynllunio fod yn anodd ei ddeall, a pham nad yw cyhoeddi rhywbeth ar wefan o reidrwydd yn golygu eich bod wedi rhoi gwybod i neb amdano.

 

Archebwch nawr ar Eventbrite >>